Atlanta, Georgia
dinas, Unol Daleithiau America From Wikipedia, the free encyclopedia
Remove ads
Atlanta yw prifddinas a dinas fwyaf talaith Georgia yn yr Unol Daleithiau. Roedd y boblogaeth yn 2007 yn 519,145. Yn y 1990au a'r 2000au, roedd Atlanta ymhlith y dinasoedd oedd yn tyfu gyflymaf yn y byd datblygedig.
Tyfodd y ddinas o gwmpas pen dwyreiniol rheilffordd y penderfynwyd ei hadeiladu yn 1836. Roedd y tiroedd yn yr ardal gynt yn perthyn i'r Cherokee, ond gyrrwyd hwy allan ohonynt yn 1838 a 1839. Erbyn cyfnod Rhyfel Cartref America, roedd Atlanta yn ganofan strategol bwysig. Cipiwyd y ddinas dros y Gogledd gan William T. Sherman ar 2 Medi 1864, a dinistriwyd rhan helaeth ohoni yn yr ymladd.
Yn Atlanta y cynhaliwyd Gemau Olympaidd yr Haf 1996, ac mae pencadlys Cwmni Coca-Cola yma.
Remove ads
Gefeilldrefi Atlanta
Remove ads
Dolenni allanol
- (Saesneg) Gwefan Dinas Atlanta

Wikiwand - on
Seamless Wikipedia browsing. On steroids.
Remove ads

