Benjamin Hoadly

offeiriad, diwinydd (1676-1761) From Wikipedia, the free encyclopedia

Benjamin Hoadly
Remove ads

Clerigwr Anglicanaidd o Loegr a fu'n Esgob Bangor ac yn ddiweddarach yn esgob mewn nifer o esgobaethau yn Lloegr oedd Benjamin Hoadly, weithiau Benjamin Hoadley (14 Tachwedd 167617 Ebrill 1761).

Ffeithiau sydyn Ganwyd, Bu farw ...

Addysgwyd ef yng Ngoleg y Santes Catrin, Caergrawnt. Ordeiniwyd ef yn 1701 a bu'n rheithor St. Peter-le-Poor, Llundain, o 1704 hyd 1724. Daeth yn gaplan i George I.

Remove ads

Esgob Bangor

Apwyntiwyd ef yn Esgob Bangor yn 1716. Ef oedd y cyntaf mewn olyniaeth o esgobion Seisnig a barhaodd hyd 1890.

Bu cryn anghydfod a dicter ymhlith y Cymry pan glywyd fod Sais wedi cael ei apwyntio yn Esgob Bangor. Teithiodd Hoadly ar hyd yr A5 hyd at Amwythig gyda'r bwriad o gymryd meddiant o'i esgobaeth newydd. Pan sylweddolodd Cymry'r dref honno ei fod yno, daeth torf ohonynt at ei gilydd a rhwystrwyd cerbyd Hoadly ar y bont sy'n croesi Afon Hafren. Bu'n rhaid iddo droi yn ei ôl a dywedir er iddo ddal y swydd am gyfnod o chwe blynedd ni osododd ei droed i lawr gymaint ag unwaith yn ei esgobaeth. Cymaint oedd y casineb tuag ato fel y bu bron iawn i brelad Gwyddelig gael ei gamdrin yn gorfforol gan dorf ym Mangor pan ddigwyddai fynd trwy'r ddinas ar ei ffordd i Gaergybi ar ôl i rywun feddwl mai Broadly oedd ef.[1]

Remove ads

"Y Ddadl Fangoraidd"

Thumb
Y Parch. Ddr. Benjamin Hoadly

Yn 1717, dechreuodd ei bregeth ar "Natur Teyrnas Crist" yr hyn a elwir Y Ddadl Fangoraidd yn Eglwys Loegr. Yn ddiweddarach, symudwyd ef i dair esgobaeth yn Lloegr. Darluniwyd ef gan William Hogarth (1697-1764) pan oedd yn Esgob Caerwynt tua 1743.

Gweithiau

  • A Defence of the Reasonableness of Conformity (1707)
  • A Plain Account of the Nature and End of the Sacrament of the Lord's Supper (1735)
  • The Repeal of the Corporation and Test Acts (1736)

Llyfryddiaeth

Cyfeiriadau

Loading related searches...

Wikiwand - on

Seamless Wikipedia browsing. On steroids.

Remove ads