Benjamin Zephaniah
bardd ac awdur Saesneg (1958–2023) From Wikipedia, the free encyclopedia
Remove ads
Bardd Seisnig oedd Benjamin Obadiah Iqbal Zephaniah (15 Ebrill 1958 – 6 Rhagfyr 2023)[1][2]. Roedd yn lenor Rastafarian a bardd dub.
Bu farw yn Rhagfyr 2023 wedi derbyn diagnosis o diwmor ar yr ymennydd wyth wythnos ynghynt.
Remove ads
Bywyd cynnar
Ganed a magwyd Zephaniah yn Handsworth ardal o fewn dinas Birmingham,[3] man y cyfeiriodd ato fel "Jamaican capital of Europe", yn fab i bostmon o Barbados a nyrs.[4][5] Fel person â dyslecsia, fe fynychodd ysgol arbennig, ond gadawodd yr ysgol yn 13 oed heb fod yn gallu darllen nac ysgrifennu.
Gwrthod OBE
Yn Nhachwedd 2003, fe esboniodd Zephaniah yn The Guardian ei fod wedi gwrthod OBE gan y Frenhines gan ei fod yn ei atgoffa o "how my foremothers were raped and my forefathers brutalised".[6]
Erthygl am ddysgu Cymraeg i blant yn Lloegr
Yn sgil ei ymweliad i Eisteddfod Genedlaethol Cymru Maldwyn a'r Gororau 2015 pan gyflwynodd rhaglen am yr ŵyl i BBC Four[7], cyhoeddwyd erthygl gan Zephaniah ar wefan BBC am y syniad o ddysgu Cymraeg i blant mewn ysgolion yn Lloegr[8] yn ogystal ag erthyglau am ei sylwadau.[9][10]
Cyhoeddiadau
Cyhoeddodd Zephaniah ei lyfr cyntaf o gerddi, Pen Rhythm, yn 1980. Cafodd cystal dderbyniad fel yr argraffwyd tair cyfrol. Fe dderbyniodd ei albwm Rasta, a oedd yn cynnwys recordiad cyntaf band The Wailers ers marwolaeth Bob Marley yn ogystal â bod yn deyrnged i Nelson Mandela, sylw ar draws y byd a bu ar frig siartiau albymau Iwgoslafia.[11]
Roedd Zephaniah yn poet in residence yn siambrau Michael Mansfield QC, ac eisteddodd i mewn ar gyfer yr ymchwiliad i Sul y Gwaed ac achosion eraill, ac fe arweiniodd y profiadau hyn at ei gasgliad o gerddi Too Black, Too Strong.
Remove ads
Llyfrau
Barddoniaeth
- Pen Rhythm (1980)
- The Dread Affair: Collected Poems (Arena, 1985)
- City Psalms (Bloodaxe Books, 1992)
- Inna Liverpool (AK Press, 1992)
- Talking Turkeys (Puffin, 1995)
- Propa Propaganda (Bloodaxe Books, 1996)
- Funky Chickens (Puffin, 1997)
- School's Out: Poems Not for School (AK Press, 1997)
- Funky Turkeys (Llafarlyfr) (AB, 1999)
- Wicked World! (Puffin, 2000)
- Too Black, Too Strong (Bloodaxe Books, 2001)
- The Little Book of Vegan Poems (AK Press, 2001)
- Reggae Head (Llafarlyfr) (57 Productions)
- Rong Radio Station
Nofelau
- Face (Bloomsbury, 1999) (cyhoeddwyd mewn rhifynau i blant ac i oedolion)
- Refugee Boy (Bloomsbury, 2001)
- Gangsta Rap (Bloomsbury, 2004)
- Teacher's Dead (Bloomsbury, 2007)
Llyfrau plant
- We are Britain (Frances Lincoln, 2002)
- Primary Rhyming Dictionary (Chambers Harrap, 2004)
- J is for Jamaica (Frances Lincoln, 2006)
Remove ads
Dramâu
- Listen to Your Parents (wedi ei gynnwys yn Theatre Centre: Plays for Young People - Celebrating 50 Years of Theatre Centre (2003) Aurora Metro, cyhoeddwyd hefyd gan Longman, 2007)
- Face: The Play
Discograffi
Albymau
- Rasta (1982) Upright (ail gyhoeddwyd (1989) Workers Playtime (UK Indie #22)[12]
- Us An Dem (1990) Island
- Back to Roots (1995) Acid Jazz
- Belly of De Beast (1996) Ariwa
- Naked (2005) One Little Indian
- Naked & Mixed-Up (2006) One Little Indian (Benjamin Zephaniah Vs. Rodney-P)
Senglau, EPs
- Dub Ranting EP (1982) Radical Wallpaper
- "Big Boys Don't Make Girls Cry" 12-inch single (1984) Upright
- "Crisis" 12-inch single (1992) Workers Playtime
- "Empire" (1995) Bomb the Bass with Benjamin Zephaniah & Sinead O'Connor
Remove ads
Cyfeiriadau
Dolenni allanol
Wikiwand - on
Seamless Wikipedia browsing. On steroids.
Remove ads