Bihar
talaith, India From Wikipedia, the free encyclopedia
Remove ads
Mae Bihar (Hindi: बिहार, Urdu: بہار) yn dalaith yn nwyrain India. Y brifddinas yw Patna. Mae'r dalaith yn ffinio â Nepal yn y gogledd, â thalaith Uttar Pradesh yn y gorllewin, Jharkhand yn y de a Gorllewin Bengal yn y dwyrain. Hindi yw iaith swyddogol y dalaith, gydag Wrdw fel ail iaith swyddogol.
Ymhlith y mannau pwysig yn y dalaith mae Bodh Gaya, lle daeth y Buddha yn oleuedig. Yn Bihar y dechreuodd Mahatma Gandhi ei ymgyrch dros ryddid wedi iddo ddychwelyd o Dde Affrica.
Mae tir Bihar yn wastad a ffrwythlon, gyda nifer o afonydd, yn cynnwys Afon Ganga, yn llifo trwy'r dalaith. Er hynny, mae'n un o daleithiau lleiaf datblygedig India, gyda 42.6% yn byw oddi tan lefel tlodi, o'i gymharu a 26.1% yn India yn gyffredinol. Adlewyrchir hyn yn y ffaith fod Bihar yn dioddef lefel uchel o ddacoitaeth (banditri Indiaidd) gyda lladron pen ffordd yn ymosod ar fysus a hyd yn oed ar drenau o bryd i'w gilydd.

Remove ads
Enwogion
- Kanishka Narayan, AS San Steffan dros Fro Morgannwg
Remove ads
Wikiwand - on
Seamless Wikipedia browsing. On steroids.
Remove ads


