Goa

From Wikipedia, the free encyclopedia

Goa
Remove ads

Mae Goa yn dalaith arfordirol yng ngorllewin India. Fe'i lleolir yn yr ardal o'r enw Konkan. Mae hi'n ffinio â Maharashtra yn y gogledd a Karnataka yn y de a'r dwyrain. Goa yw'r dalaith leiaf o ran arwynebedd a'r bedwaredd leiaf o ran poblogaeth. Nid yw'n dalaith fawr, gydag arwynebedd tir o ddim ond 3659 km². Mae ganddi boblogaeth o tua 1.4 miliwn (1999).

Ffeithiau sydyn Math, Prifddinas ...

Ei phrifddinas yw Panaji er mai Vasco de Gama yw'r ddinas fwyaf. Gwelir dylanwad diwylliant Portiwgeaidd ar ddinas hanesyddol Margao wedi i'r Portiwgeaid lanio yno yn yr 16g, gan goncro'r ardal yn fuan ar ôl hynny. Parhaodd Goa o dan reolaeth Portiwgal am tua 450 o flynyddoedd, tan iddi gael ei goresgynnwyd gan India ym 1961.

Y prif ieithoedd yw Konkaneg a Marathi ac mae rhai pobl yn siarad Saesneg a Phortiwgaleg yn ogystal.

Mae Goa yn ganolfan boblogaidd gan dwristiaid o'r Gorllewin ac mae'r GNP yn uchel yn nhermau India. Mae'r dalaith yn enwog am ei thraethau, mannau addoli a phensaernïaeth treftadaeth y byd.

Thumb
Lleoliad Goa yn India
Remove ads

Gweler hefyd


Rhagor o wybodaeth Taleithiau a thiriogaethau India, Taleithiau ...
Eginyn erthygl sydd uchod am India. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.
Remove ads
Loading related searches...

Wikiwand - on

Seamless Wikipedia browsing. On steroids.

Remove ads