Biocemeg
astudiaeth o brosesau cemegol organebau byw From Wikipedia, the free encyclopedia
Remove ads
Biocemeg, neu weithiau cemeg biolegol, yw'r astudiaeth o brosesau cemegol o fewn organebau byw. Mae llawer o'r astudiaeth yn ymwneud â phroteinau, carbohydradau, asidau niwclëig, lipidau, a'u ymadweithiau.[1]
Mae'r prosesau biocemegol hyn yn cynnwys rheoli gwybodaeth drwy signalu a thrwy reoli llif yr egni drwy fetabolaeth, ac yn gyfrifol am fywyd yr organebau a chyfoeth yr amrywiaeth bywyd ar y Ddaear. Yn ystod degawd ola'r 20g, gwelwyd twf aruthrol yn y maes hwn, a gwelwyd biocemeg yn datblygu o fewn pob adran o wyddorau gwybyddiaeth (life sciences)[2]: botaneg, meddygaeth, geneteg ayb, a phob un yn ymwchwilio'n fanwl i fiocemeg o fewn eu gwyddor hwy.[3] Heddiw, yn 2017, prif ganolbwynt y gwaith yw'r ymgais i geisio deall sut y mae moleciwlau biolegol yn arwain at brosesau o fewn celloedd organebau byw,[4] gwaith sy'n berthnasol iawn i'r astudiaeth o feinweoedd, organau a'r organeb yn ei gyfanrwydd.[5]—hynny yw, popeth o fewn maes bioleg.

Remove ads
Cymry blaenllaw yn y maes
Un o'r bobl mwyaf blaenllaw yn y maes hwn yw'r Fonesig Athro Jean Thomas FRS (Caergrawnt).
Cyfeiriadau
Wikiwand - on
Seamless Wikipedia browsing. On steroids.
Remove ads