Blaendulais
pentref yng Nghastell-nedd Port Talbot From Wikipedia, the free encyclopedia
Remove ads
Pentref a chymuned ym mwrdeisdref sirol Castell-nedd Port Talbot, Cymru, yw Blaendulais[1] (Saesneg: Seven Sisters).[2] Saif tua 10 milltir i'r gogledd-ddwyrain o dref Castell Nedd, ar y briffordd A4109 a ger Afon Dulais, sy'n tarddu ychydig i'r gogledd. Roedd y boblogaeth yn 2001 yn 2,032.
Ardal lofaol oedd hon; agorwyd y lofa gan Evan Evans-Bevan yn 1875, a chafodd yr enw Seven Sisters Colliery ar ôl saith merch Evans-Bevan. Yn 1945 roedd y lofa'n cyflogi 759 o ddynion. Agorwyd nifer o byllau glo eraill; Nant-y-Cafn neu Dillwyn yn 1884, Henllan 1911 a Brynteg yn 1885. Caewyd glofa'r Seven Sisters yn 1963.
Cynrychiolir yr ardal hon yn Senedd Cymru gan Jeremy Miles (Llafur)[3] ac yn Senedd y DU gan Carolyn Harris (Llafur).[4]
Daw'r gantores a'r gyfansoddwraig, Bronwen Lewis o'r pentref. Mae Lews yn gyflwynydd radio ac yn canu a pherfformio yn y Gymraeg a'r Saesneg. Bu hi hefyd yn feirniad ar gyfres gyntaf y rhaglen dalent boblogaidd, Y Llais.
Remove ads
Cyfrifiad 2011
Yng nghyfrifiad 2011 roedd y sefyllfa fel a ganlyn:[5][6][7][8]
Remove ads
Enwogion
- Richard Ithamar Aaron, athronydd
- Bronwen Lewis, cyfansoddwr, cantores, a pherfformiwr
Cyfeiriadau
Wikiwand - on
Seamless Wikipedia browsing. On steroids.
Remove ads