Bobby Robson
From Wikipedia, the free encyclopedia
Remove ads
Roedd Syr Robert William "Bobby" Robson CBE (18 Chwefror 1933 – 31 Gorffennaf 2009) yn chwaraewr pêl-droed rhyngwladol a chyn-reolwr nifer o dîmau pêl-droed Ewropeaidd a thîm cenedlaethol Lloegr.
Parhaodd ei yrfa broffesiynol fel blaenwr-mewnol am bron i ugain mlynedd. Yn ystod y cyfnod hwnnw, chwaraeodd i dri tîm yn unig - Fulham, West Bromwich Albion a chyfnod byr gyda'r Vancouver Royals. Chwaraeodd i dîm Lloegr ar ugain achlysur, gan sgorio pedwar gôl.
Roedd yn fwy adnabyddus am ei lwyddiant fel rheolwr clybiau a thîmau rhyngwladol, gan ennill pencampwriaethau cynghrair yn yr Iseldiroedd a Phortiwgal, gan ennill tlysau yn Lloegr a Sbaen, ac am arwain tîm Lloegr i'r rownd gyn-derfynol yng Nghwpan y Byd ym 1990. Yn fwy diweddar, gweithiodd fel mentor i reolwr tîm pêl-droed cenedlaethol Gweriniaeth Iwerddon.
Urddwyd Robson yn 2002, ac mae'n aelod o Rodfa Enwogion Pêl-droedwyr Lloegr. Ef hefyd oedd llywydd anrhydeddus Ipswich Town Ers 1991, bu'n dioddef o gancr ac ym mis Awst 2008, dywedodd fod cancr yr ysgyfaint wedi ei drechu. Dywedodd: "My condition is described as static and has not altered since my last bout of chemotherapy...I am going to die sooner rather than later. But then everyone has to go sometime and I have enjoyed every minute."
Bu farw Bobby Robson yn y bore ar y 31 Gorffennaf, 2009.[1]
Remove ads
Cyfeiriadau
Wikiwand - on
Seamless Wikipedia browsing. On steroids.
Remove ads
