Bruce Forsyth

From Wikipedia, the free encyclopedia

Bruce Forsyth
Remove ads

Digrifwr a chyflwynydd teledu o Loegr oedd Syr Bruce Joseph Forsyth-Johnson CBE (22 Chwefror 192818 Awst 2017). Roedd wedi bod yn y diwydiant adloniant ers yn 14 mlwydd oed gan ddod yn adnabyddus yn y 1950au wrth gyflwyno'r gyfres ITV, Sunday Night at the London Palladium.[1]

Ffeithiau sydyn Ganwyd, Bu farw ...

Fe'i ganwyd yn Llundain, yn fab Florence Ada (née Pocknell) a John Thomas Forsyth-Johnson. Roeddent yn aelodau o Fyddin yr Iachawdwriaeth.

Remove ads

Salwch a marwolaeth

Ar 8 Hydref 2015 fe'i ruthrwyd i'r ysbyty ar ôl iddo gwympo yn ei gartref, gan daro ei ben a chael cyfergyd a clwyfi bychan. Ar 12 Tachwedd cafodd lawdriniaeth ar gyfer ymlediad aortaidd yn ei stumog ond roedd disgwyl iddo gwneud gwellhad cyflym. Oherwydd y driniaeth roedd rhaid iddo dynnu nôl o'i ymddangosiad ar rifyn Nadolig y flwyddyn honno o Strictly Come Dancing.

Ar 26 Chwefror 2017, fe'i gludwyd i'r ysbyty gyda haint difrifol ar ei frest a treuliodd pum diwrnod mewn gofal dwys. Daeth adre ar 3 Mawrth 2017.

Bu farw yn ei gartref ar 18 Awst 2017 yn 89 oed.

Remove ads

Gwragedd

  • Penny Calvert (p. 1953–73)
  • Anthea Redfern (p. 1973–79)
  • Wilnelia Merced (p. 1983-2017)

Teledu

  • Sunday Night at the London Palladium (1957-1961)
  • The Bruce Forsyth Show (1965-1973)
  • Bruce Forsyth and the Generation Game (1971-1977, 1990-1994)
  • Bruce Forsyth's Big Night (1978)
  • Bruce Forsyth's Play Your Cards Right (1980-1987, 1994-1999, 2002–2003)
  • Slinger's Day (1986-1987)
  • You Bet! (1988-1990)
  • Bruce's Price is Right (1995-2001)
  • Strictly Come Dancing (2004-2012)

Ffilmiau

  • Star! (1968)
  • Can Hieronymus Merkin Ever Forget Mercy Humppe and Find True Happiness? (1969)
  • Bedknobs and Broomsticks (1971)
  • The Magnificent Seven Deadly Sins (1971)

Cyfeiriadau

Loading related searches...

Wikiwand - on

Seamless Wikipedia browsing. On steroids.

Remove ads