Bryste

Dinas yn Lloegr From Wikipedia, the free encyclopedia

Bryste
Remove ads

Dinas a sir seremonïol yn Ne-orllewin Lloegr yw Bryste (Saesneg: Bristol); y sillafiad yng ngherddi'r bardd Guto'r Glyn (c.1435 – c.1493) yw Brysto[1]. Fe'i hadnabyddid hefyd fel Caerodor neu Caer Odor yn Gymraeg (gyda'r gair "odor" yn golygu "bwlch") . Mae'n agos i Fôr Hafren a phontydd Hafren ac fe'i lleolir 71 km i'r dwyrain o Gaerdydd. Mae Bryste ar ffin siroedd Caerloyw a Gwlad yr Haf, gydag Afon Avon yn eu gwahanu.

Thumb
Lleoliad Bryste (sir seremonïol) yn Lloegr
Ffeithiau sydyn Math, Ardal weinyddol ...
Remove ads

Geirdarddiad

Mae'r enw 'Bryste' yn dod o'r Hen Saesneg Brycgstow "lle'r bont". Mae'r "l" ar ddiwedd y ffurf Saesneg yn tarddu o un o nodweddion tafodiaith Saesneg Bryste, sef ychwanegu "l" weithiau ar ddiwedd geiriau sy'n gorffen gyda llafariad.

Hanes

Mae'r ddinas wedi datblygu yn bennaf fel porthladd ac roedd masnachu caethweision yn bwysig iawn ar un adeg. Yn y 18g roedd Bryste'n ganolfan bwysig ar gyfer gwaith porslen ac yn cystadlu yn y farchnad honno â gweithfeydd Plymouth a Dresden.

Mae pont grog enwog ym Mryste, Pont Grog Clifton, ar draws Afon Avon, a adeiladwyd gan Isambard Kingdom Brunel.

Gwleidyddiaeth a gweinyddiaeth

Mae Bryste'n unigryw gan fod ganddo statws sirol ers y canoloesoedd. Yn 1835 ehangwyd y ffiniau er mwyn cynnwys treflanau megis Clifton ac roedd yn fwrdeistref sirol ym 1889 pan ddefnyddiwyd y term hwn am y tro cyntaf.[2] [3] Ar 1 Ebrill 1996, adenillodd ei statws fel sir (neu "swydd") pan ddiddymwyd yr enw "Swydd Avon" a daeth yn swydd unedol.[4]

Etholaethau seneddol

Rhennir y sir yn chwe etholaeth seneddol yn San Steffan. At ddibenion gweinyddol mae'n dal i gael ei restru fel rhan o'r hen sir Avon.

Adeiladau a chofadeiladau

  • Castell Bryste
  • Eglwys gadeiriol
  • Eglwys y Teml
  • Neuadd Colston
  • Theatr Old Vic
  • Tŵr Colston

Enwogion

Gweler hefyd

Cyfeiriadau

Loading related searches...

Wikiwand - on

Seamless Wikipedia browsing. On steroids.

Remove ads