Bwrdeistref Chorley

ardal an-fetropolitan yn Swydd Gaerhirfryn From Wikipedia, the free encyclopedia

Bwrdeistref Chorley
Remove ads

Ardal an-fetropolitan yn Swydd Gaerhirfryn, Gogledd-orllewin Lloegr, yw Bwrdeistref Chorley (Saesneg: Borough of Chorley).

Ffeithiau sydyn Math, Ardal weinyddol ...

Mae gan yr ardal arwynebedd o 203 km², gyda 118,216 o boblogaeth yn ôl amcangyfrif cyfrifiad 2019.[1] Mae'n ffinio ar dair ardal arall yn Swydd Gaerhirfryn, sef Bwrdeistref Gorllewin Swydd Gaerhirfryn i'r gorllewin, Bwrdeistref De Ribble i'r gogledd, a Bwrdeistref Blackburn gyda Darwen i'r dwyrain. Mae'n ffinio ar Fanceinion Fwyaf i'r de.

Thumb
Bwrdeistref Chorley yn Swydd Gaerhirfryn

Ffurfiwyd yr ardal dan Ddeddf Llywodraeth Leol 1972, ar 1 Ebrill 1974.

Rhennir y fwrdeistref yn 23 o blwyfi sifil, gydag ardal ddi-blwyf sy'n cynnwys tref Chorley, lle mae'r pencadlys yr ardal. Mae aneddiadau eraill yn yr ardal yn cynnwys tref Adlington.

Remove ads

Cyfeiriadau

Loading related searches...

Wikiwand - on

Seamless Wikipedia browsing. On steroids.

Remove ads