C.P.D. Merched Llanidloes

clwb pêl-droed menywod tref Llanidloes a daeth i ben yn 2019 ac ymddengys nad yw wedi ail-sefydlu'n llawn. From Wikipedia, the free encyclopedia

Remove ads

Roedd C.P.D. Merched Llanidloes (Saesneg: Llanidloes Ladies F.C.) yn glwb pêl-droed wedi'i leoli yn nhref Llanidloes, Powys. Daeth y clwb i ben yn 2019 ond ymddengys y cafwyd ymdrech i ail-godi tîm merched i'r dref yn 2023.[1]

Ffeithiau sydyn Enw llawn, Daeth i ben ...
Remove ads

Hanes

Ffurfiant

Ffurfiwyd y clwb yn 2000 ac roedd yn un o aelodau sefydlu Cynghrair Gogledd Powys. Yn ystod camau cynnar ffurfio'r tîm ni chafodd y clwb fawr o lwyddiant.

Llwyddiant Cynnar

Yn nhymor 2007/08 enillodd y clwb eu tlysau cyntaf o dan y Rheolwr Richard Williams yn ennill Cwpan Canolbarth Cymru. Yn nhymor 2007/08 ffurfiodd y clwb dîm wrth gefn a aeth ymlaen i ennill Adran 2 Cynghrair Merched Gogledd Powys yn ddi-guro yn eu tymor cyntaf.

Her Newydd yr Uwch Gynghrair Genedlaethol

Gyda'r clwb yn dominyddu Pêl-droed Canolbarth Cymru fe'u dewiswyd, fel un o 8 clwb trwy Gymru, i ffurfio Cynghrair Merched Cymru yn 2009. Rhannwyd y Gynghrair yn ddwy adran i ddechrau, Gogledd a De, gyda Llanidloes yn chwarae yn y Gogledd. Fodd bynnag, gan fod y gynghrair yn fach i ddechrau gallent barhau i chwarae yng Nghynghrair Gogledd Powys tra'n dal i gyflawni eu gemau Uwch Gynghrair. Llwyddodd y Clwb i sicrhau lle yn llyfrau hanes pêl-droed merched Cymru gan chwarae yng ngêm gyntaf Cynghrair Merched Cymru yn erbyn Aberystwyth ym mis Medi 2009 y sgôr oedd 2-0 a roedd 348 o bobl yn y dorf.[2]

Ar gyfer tymor 2009/10 unodd Adran 1 a 2 cynghrair Gogledd Powys i ffurfio Cynghrair fwy cystadleuol. Roedd hyn yn golygu bod yn rhaid i’r Tîm Wrth Gefn ffurfio carfan gwbl annibynnol, felly daeth Tîm Wrth Gefn Llanidloes yn Llanidloes Daffs ar gyfer y tymor newydd.

Cafodd Merched Llanidloes garreg filltir arall hefyd yn 2009 pan gafodd Nikki Bocking ei galw i garfan dan 17 Cymru gan deithio i Wlad Belg ym mis Medi a Macedonia ym mis Hydref 2009.[3]

Uwch Gynghrair fformat sengl newydd

Yn ystod ei thair blynedd gyntaf rhannwyd Cynghrair Merched Cymru yn ddwy adran, gogledd a de, gyda Llanidloes yn cystadlu yn y Gogledd. Newidiodd y gynghrair y fformat i un adran ar gyfer tymor 2012-13 gan greu Uwch Gynghrair Merched Cymru a ail-fradwyd wedyn yn Adran Premier (a hefyd Adran Genero ar ôl y noddwr). Pan ddaeth y gynghrair yn un adran roedd yn golygu na allai Llanidloes chwarae mwyach yng Nghynghrair Gogledd Powys. Fe wnaeth y clwb ailenwi ei hun yn Hafren United cyn tymor 2014/15 ond tynnodd yn ôl cyn chwarae eu gêm gyntaf.[4]

Remove ads

Diwygio

Ailffurfiodd Merched Llanidloes yn haf 2017 gan ymuno â Chynghrair Pêl-droed Merched Gogledd Cymru oherwydd diffyg Cynghrair Canolbarth Cymru. Plygodd y clwb ar ôl i anghydfod rhwng Cymdeithas Bêl-droed Cymru a’r gynghrair arwain at atal Cynghrair Pêl-droed Merched Gogledd Cymru, ni chafodd y clwb byth fynd eto ar ôl i’r ataliad gael ei godi.

Ymddengys yn 2023 bod ymdrech i ail-godi'r clwb neu, o leiaf y ceir clwb ar gyfer menywod a phlant gydag apêl am grysau'r clwb a chofnod o sawl gêm a thwrnamaint.[5]

Remove ads

Anrhydeddau'r Clwb

  • Adran 1 Cynghrair (2) 2008/09, 2009/10
  • Cwpan y Canolbarth (3) 2007/08, 2008/09, 2009/10
  • Cwpan y County Times (2) 2008/09, 2009/10
  • Cwpan Uwch Gynghrair Cymru
    • Ail: 2013–14[6]

Dolenni allanol

Cyfeiriadau

Loading related searches...

Wikiwand - on

Seamless Wikipedia browsing. On steroids.

Remove ads