C.P.D. Merched Tref Aberystwyth
clwb pêl-droed merched From Wikipedia, the free encyclopedia
Remove ads
Mae C.P.D. Merched Tref Aberystwyth yn dîm pêl-droed, sy'n chwarae yn Uwch Gynghrair Merched Cymru, y buont yn aelodau sylfaenol ohono yn 2009.[1] Yn wir, chwaraewyd gêm gyntaf erioed y gynghrair newydd, a adnabwyd fel Cynghrair Merched Cymru yn Aberystwyth pan chwaraeodd Aber yn erbyn C.P.D. Merched Llanidloes ym mis Medi 2009.[2]
Mae'r clwb yn chwarae ei gemau cartref ym maes Coedlan y Parc, Aberystwyth, sydd â lle i 5,000.
Remove ads
Hanes
Cyd-sefydlwyd y tîm dan ysbrydolaeth Ray Hughes oddeutu 2004 yn rhannol wedi iddo weld dyheuad a llwyddiant merched lleol, yn cynnwys ei ferch Lucy (Walker, bellach) i chwarae'r gêm. Roedd Hughes wedi hyfforddi timau merched i gystadlu yng Cystadleuaeth Bêl-droed Ian Rush a gynhaliwyd yn y dref yn flynyddol a Thwrnament Pêl-droed Merched a gynhaliwyd yn Aberhonddu[3] Yn dilyn llwyddiant ym Mhywys ymunodd y tîm â Chynghrair Merched Ceredigion. Nodwyd nad oedd modd iddynt ymarfer ar Goedlan-y-Parc i gychwyn a bu'n rhaid ymladd am yr hawl hynny. Roedd y tîm yn chwarae ar gael Padarn United. Newidiodd hynny wrth i'r tîm ymuno Chynghrair Cymru mynodd y Gymdeithas Bêl-droed bod y tîm merched yn chwarae ar Goedlan y Parc.[4] Bu Hughes yn reolwr ar y tîm am bron i ddegawd, hyd nes 2013-2015, ac yna, nôl eto wedi 2015 am gyfnod.
Gêm Gyntaf Cynghrair Merched Cymru
Roedd y tîm yn un sylfaenwyr yr Uwch Gynghrair yn 2009. Chwarawyd gêm gyntaf erioed y Gynghrair newydd ar nos Wener, 24 Medi 2009 yng Nghoedlan y Parc yn erbyn Merched Llanidloes o flaen torf o bron i 400. Enillodd Aberystwyth y gêm, 2 - 0. Y person gyntaf i sgorio yn y Gynghrair oedd chwaraewraig Aberystyth, Sam Gaunt, a'r ail oedd Leanne Bray. Y person gyntaf i dderbyn carden felen oedd, Lucy Hughes, merch Ray Hughes.[3]
Sefydlu yn yr Uwch Gynghrair
Bu tîm Merched Aberystwyth yn aelodau cyson o'r lîg nes ddisgyn adran ar ddiwedd tymor 2016-17.[5] Ar ôl dau dymor yn ail haen pêl-droed Cymru i Ferched, dyrchafwyd Merhed Aberystwyth nôl i Uwch Gynghrair Cymru ar gyfer tymor 2019-20.
Yn nhymor 2019-20 roedd Aberystwyth ar waelod yr Uwch Gynghrair yn safle rhif 8,[6]
It's fair to say @SwansLadies dominated & are deserving champions.}}</ref> ond enillodd y tîm wobr 'Chwrae Teg' yr Uwch Gynghrair.[7]
Ar gyfer tymor 2021-22 cafwyd ad-drefniad ac ailfrandiad arall wrth newid stwythur pêl-droed merched Cymru i Adran Premier (yr Uwch Gynghrair) ac yna dau Adran ranbarthol (lefel 2) sef Adran Gogledd ac Adran De. Roedd Aberystwyth yn un o'r 8 tîm yn yr Adran Premier.
Cynhwyswyd C.P.D.M. Aberystwyth yn nhymor gyntaf yr Uwch Gynghrair a strwythur newydd pêl-droed merched Cymru pan lansiwyd Genero Adran Premier yn nhymor 2021-22.[8] Roedd gêm gyntaf Aberystwyth yn yr Adran newydd yn erbyn C.P.D. Tref Barri ar 5 Medi 2021 gydag Aberystwyth yn ennill 3-1. Sgorwraig gyntaf i Aberystwyth, a'r gôl gyntaf yn yr Adran Premier, oedd Elin Jones.[9]
Remove ads
Cit
Mae'r cit cartref y tîm yn dilyn yr un patrwm â stribed tîm dynion C.P.D. Tref Aberystwyth sef crysau gwyrdd gyda trim du a gwyn, siorts du a sanau. Y stribed chwarae oddi cartrf yw crysau gwyn gyda trim gwyrdd, siorts gwyrdd a sanau.
Cip ar y Clwb
Yn 2023 rhyddhaodd Amgueddfa Bêl-droed Cymru fideo am y clwb - ei hanes a'i pherthynas gyda'r dref - ar ei sianel Youtube. Nodwyd bod y clwb yn "ganolbwynt i'r dref".[4]
Carfan
- Diweddarwyd 8 September 2023[10]
Nodyn: Diffinnir y baneri cenedlaethol o dan reolau FIFA. Gall y chwaraewyr, felly, fod o fwy nag un cenedl.
Rheolwr y tîm ar gyfer 2020-21 oedd Carwyn Phillips.[11]
Remove ads
Cyfeiriadau
Dolenni allanol
Wikiwand - on
Seamless Wikipedia browsing. On steroids.
Remove ads