CERN

From Wikipedia, the free encyclopedia

CERN
Remove ads

Cyfundrefn ar gyfer ymchwil niwclear ar raddfa atomig ac is-atomig yw'r Cyfundrefn Ewropeaidd dros Ymchwil Niwclear (Ffrangeg: Organisation Européenne pour la Recherche Nucléaire - yn gynt Conseil Européen pour la Recherche Nucléaire), a adnabyddir fel CERN (sef: /ˈsɝːn/ (IPA: [sɛʀn]) yn Ffrangeg).

Ffeithiau sydyn Enghraifft o:, Dechrau/Sefydlu ...

CERN yw labordy ffiseg gronynnau (Saesneg: particle physics laboratory) mwya'r byd ac mae'n cynnwys cyflymydd gronynnau mwyaf pwerus y byd sydd wedi ei leoli yn yr ardal rhwng y mynyddoedd Jura a'r Alpau yn y Swistir yn agos i ffin Ffrainc. Mae dros 2,600 o staff llawn-amser a 7,931 o wyddonwyr yn gweithio ar y prosiect. Mae dros 20 o wledydd Ewrop (gweler y map); yn cynnwys 580 prifysgol yn cyfrannu i'r prosiect.

Yn swyddogol, nid yw safleoedd CERN yn dod o dan oruchwyliaeth naill ai'r Swistir na Ffrainc.

Remove ads

Hanes

Ar 29 Medi 1954 daeth 11 gwlad gorllewin Ewrop at ei gilydd i arwyddo cytundeb a oedd yn eu clymu i'r prosiect hwn. Yn 1954 newidiwyd enw'r mudiad i Organisation Européenne pour la Recherche Nucléaire ond penderfynwyd cadw'r hen acronym CERN.[1]

Yn fuan wedi ei sefydlu, datblygodd y gwaith i fod yn fwy nac ymchwil i mewn i'r niwclews atomig, gan ymestyn i ynni-uwch, maes ffiseg sydd yn ymwneud â'r rhyngweithio rhwng gronynnau is-atomig ac felly, cyfeirir at CERN yn aml fel: European laboratory for particle physics (Laboratoire européen pour la physique des particules).

Lyn Evans o Aberdâr oedd cyfarwyddwr y prosiect LHC.

Remove ads

Darganfyddiadau

Mae nifer o ddarganfyddiadau ffiseg wedi'i wneud parthed â chnewyllyn yr atom yn CERN. Dyma rai ohonynt:

  • 1973: Darganfod cerrynt niwtral yn Siambr Swigen Gargamelle[2]
  • 1983: Darganfod bosonau W a Z yn arbrofion UA1 a UA2.[3]
  • 1989: Darganfod sawl teulu o niwtrinos sydd ar binacl boson Z.
  • 1995: Creu (am y tro cyntaf) atomau Gwrth-hydrogen yn arbrawf PS210.[4]
  • 1999: Darganfod CP-violation uniongyrchol yn arbrawf NA48 [5]
  • 2011: Cynnal atomau Gwrth-hydrogen yn yr arbrawf ALPHA am dros 15 munud[6]
  • 2012: Cynhyrfu'r trosiad cyseiniol cwantwm cyntaf mewn gwrth-atom (Gwrth-hydrogen) gan defnyddio microdonnau yn yr arbrawf ALPHA[7]
  • 2013: Darganfod yr Higgs Boson (cyhoeddiad petrus)

Yn 1984 cyflwynwyd y Wobr Nobel ffiseg i Carlo Rubbia a Simon van der Meer am eu gwaith yn paratoi'r ffordd i ddarganfod bosonau W a Z.

Yn 1992 aeth y Wobr Nobel ffiseg i'r ymchwilydd Georges Charpak o CERN am ei "ddarganfyddiad ac am ddatblygu synwyryddion cnewyllol."

Remove ads

Y cyfrifiadur

Dechreuodd y we fyd-eang yma yn CERN mewn prosiect o'r enw ENQUIRE, a sefydlwyd gan Sir Tim Berners-Lee a Robert Cailliau yn 1989. Roedd y prosiect yn ymwneud â thestun, neu uwch-destun a oedd yn cysylltu â'i gilydd. Ei bwrpas wrth gwrs oedd cysylltu'r holl wyddonwyr byd-eang oedd yn gweithio gyda'i gilydd. Ar 30 Ebrill 1993, cyhoeddodd CERN fod y We Fyd-eang (neu www) am ddim i bawb. Mae copi o'u gwefan gynharaf hefyd i'w weld.[8] I roi hyn mewn cyd-destun, yn 1996 y lansiwyd y wefan Gymraeg cynhwysfawr gyntaf.[9]

Cyn y gwaith hwn ar y we, roedd CERN eisoes wedi bod yn flaenllaw iawn yn datblygu'r rhyngrwyd gan gychwyn ar ddechrau'r 1980au.[10]

Cyfeiriadau

Dolenni allanol

Loading related searches...

Wikiwand - on

Seamless Wikipedia browsing. On steroids.

Remove ads