Caeathro
pentref yng Ngwynedd From Wikipedia, the free encyclopedia
Remove ads
Pentref yng nghymuned Waunfawr, Gwynedd, Cymru, yw Caeathro[1][2] ( ynganiad ). Saif yn ardal Arfon ar briffordd yr A4085 rhwng Caernarfon a Waunfawr, tua 1.17 milltir o Gaernarfon a 0.72 milltir o Waunfawr. Mae tafarn, gorsaf betrol a maes carafanau yno.
Cynrychiolir yr ardal hon yn Senedd Cymru gan Siân Gwenllian (Plaid Cymru)[3] ac yn Senedd y DU gan Hywel Williams (Plaid Cymru).[4]
Ganwyd y nofelydd Emily Huws yng Nghaeathro.

Remove ads
Geirdarddiad
Yn 1558 y ceir y cyfeiriad cynharaf at enw Caeathro ac yn ôl Melville Richards, roedd yma athro barddol o'r enw Kay (Cai?), yn byw yma. Mae'n fwy tebygol mai athro a oedd yn dysgu darllen ac ysgrifennu i bobl yr ardal ydoedd. Ceir cyfeiriad at rai o'i ddisgynyddion ym mhlwyf Llanddeiniolen yn y 15g, ac yn eu plith yr oedd Tangwystl ferch Ieuan ap Llywelyn ap Robyn ap Madog ab yr Athro. Daw’r cyfeiriad at Dangwystl o’r flwyddyn 1430. Wrth olrhain ei llinach gellir amcangyfrif y byddai’r Athro ei hun yn fyw yn nechrau’r 14g. Ceir cyfeiriad arall at Gwenllian ferch yr Athro ('mergh Erathro') a ymddangosodd yn y llys yng Nghaernarfon yn 1364, ac Ieuan ap Rathro yn 1370.[5]
Remove ads
Cyfeiriadau
Wikiwand - on
Seamless Wikipedia browsing. On steroids.
Remove ads