Caerwys

tref a chymuned yn Sir y Fflint From Wikipedia, the free encyclopedia

Caerwys
Remove ads

Tref fechan a chymuned yn Sir y Fflint, Cymru, yw Caerwys.[1][2] Saif 8 km (5 milltir) i'r de-orllewin o Dreffynnon. Yng Nghyfrifiad 2001 roedd y boblogaeth yn 1,315.

Ffeithiau sydyn Math, Poblogaeth ...

Cynrychiolir yr ardal hon yn Senedd Cymru gan Hannah Blythyn (Llafur)[3] ac yn Senedd y DU gan Becky Gittins (Llafur).[4]

Thumb
Caerwys
Remove ads

Hanes

Credai rhai archaeolegwyr a hynafiaethwyr fod y dref yn sefyll ar safle hen gaer Rufeinig Varis, ond erbyn heddiw credir mai ger Llanelwy oedd y safle. Mae enw'r dref yn golygu "caer y gwysiau", ac efallai'n deillio o'r ffaith fod llys yn cael ei chynnal yno hyd y 16g.

Thumb
'Butter Place'; tua 1875.

Cynhaliwyd dwy eisteddfod bwysig yng Nghaerwys yn 1523 a 1567 i bennu rheolau Cerdd Dafod a Cherdd Dant ac i roi trefn ar feirdd a chantorion. Roedd nifer o feirdd gorau'r cyfnod, fel Tudur Aled, Simwnt Fychan a Gruffudd Hiraethog, yn bresennol. (Am fanylion pellach gweler: Eisteddfod Caerwys 1523 ac Eisteddfod Caerwys 1567).

Mae cysylltiad agos rhwng Caerwys â Philadelphia. Hwyliodd meddyg lleol, Thomas Wynne, mewn llong o'r enw Welcome yn 1682 gyda William Penn. Roedd Wynne yn un o sefydlwyr Philadelphia a daeth yn gadeirydd (neu 'Siaradwr') cyntaf y cynulliad cenedlaethol yno yn ogystal â bod yn farnwr rhanbarthol. Seiliwyd cynllun stryd gwreiddiol Philadelphia ar Gaerwys.[5] Mae enwau Cymraeg i'w gweld ym mhobman yno, ac mae llawer o'r adeiladau yn gopiau o adeiladau a geir yng Nghaerwys.[6]

Remove ads

Yr eglwys

Er nad yw'r eglwys bresennol yn hen iawn nid yw heb ddiddordeb. Fe'i cysegrir i Fihangel Sant. Mae'r bedyddfaen yn dyddio o 1661 a cheir sgriniau pren hynafol yng nghapel y gogledd. Un o'r creiriau mwyaf diddorol yw clawr arch garreg ac arno ffigwr cerfiedig gwraig, sydd efallai i'w dyddio i'r 13g. Yn ôl traddodiad lleol, claddwyd Elizabeth Ferrers, sef gwraig i Dafydd ap Gruffudd, yn yr eglwys.

Remove ads

Enwogion

Cyfrifiad 2011

Yng nghyfrifiad 2011 roedd y sefyllfa fel a ganlyn:[7][8][9]

Rhagor o wybodaeth Cyfrifiad 2011 ...
Remove ads

Gweler hefyd

Cyfeiriadau

Loading related searches...

Wikiwand - on

Seamless Wikipedia browsing. On steroids.

Remove ads