Eisteddfod Caerwys 1567

From Wikipedia, the free encyclopedia

Remove ads

Cynhaliwyd Eisteddfod Caerwys 1567 yng Nghaerwys, Sir y Fflint. Dyma'r ail o Eisteddfodau Caerwys yn dilyn y gyntaf, sef Eisteddfod Caerwys 1523. Bwriad y ddwy oedd pennu rheolau Cerdd Dafod a Cherdd Dant ac rhoi trefn ar feirdd a cherddorion Cymru trwy sustem o drwyddedau. Credir i'r eisteddfod gael ei chynnal mewn tŷ yn perthyn i deulu Mostyn, noddwyr y ddwy eisteddfod yn ôl pob tebyg, efallai ar y sgwâr yng nghanol Caerwys a adnabyddir fel Sgwâr Mostyn hyd heddiw.[1]

Ffeithiau sydyn Enghraifft o:, Dyddiad ...

Un o'r rhesymau dros gynnal yr eisteddfod hon yn 1567 oedd dathlu pedwar can mlwyddiant Eisteddfod Aberteifi. Eisteddfod ar gyfer beirdd a cherddorion gogledd Cymru, sef 'Talaith Aberffraw', oedd eisteddfod 1567.

Remove ads

Graddedigion

Nid yw pob llawysgrif sy'n cofnodi'r graddedigion hyn yn gwbl gytûn ond dyma'r rhestr a dderbynnir fel rheol.[2][3] Ni nodir yma y cerddorion - sef y telynorion a'r crythorion - yn y dosbarthiadau is.

Cerdd Dafod

Penceirddiaid
Disgyblion pencerddaidd
Disgyblion disgyblaidd
Disgyblion Ysbas

Telynorion

Penceirddiaid Cerdd Dant
  • Siôn ap Rhys
  • Wiliam Penllyn
  • Hwlcyn Llwyd
Disgyblion penceirddiaid
  • Thomas Anwyl
  • Dafydd Llwyd ap Siôn ap Rhys
  • Edward ab Ifan
  • Robert ap Hywel Llanfor
  • Wmffre Goch
Disgyblion disgyblaidd
  • Rhisiard Glyn
  • Rhobert Llwyd
  • Ieuan Penllyn
  • Lewis Llanfor

Crythorion

Dosbarth Cyntaf
  • Siamas Eutyn
  • Ieuan Penmon
Ail Ddosbarth
  • Rhobert ap Rhys Gutyn
  • Tomas Môn
  • Siôn Ednyfed
  • Tomas Grythor
Trydydd Ddosbarth
  • Siôn Ddu Grythor
Remove ads

Llyfryddiaeth

Cyfeiriadau

Loading related searches...

Wikiwand - on

Seamless Wikipedia browsing. On steroids.

Remove ads