Canolfan Dreftadaeth Gymreig y Gwastadeddau Mawr

From Wikipedia, the free encyclopedia

Canolfan Dreftadaeth Gymreig y Gwastadeddau Mawr
Remove ads

Mae Canolfan Dreftadaeth Gymreig y Gwastatiroedd Mawr (Saesneg: Great Plains Welsh Heritage Centre) yn ganolfan amlbwrpas yn ninas Wymore, Nebraska, sy’n dehongli hanes Cymry-America a’r ymsefydlwyr cynnar o Gymru i’r Gwastadeddau Mawr.[1][2]

Thumb
Y ganolfan

Hanes

Prynwyd y Ganolfan ym mis Rhagfyr 2003 gan Brosiect Dreftadaeth Gymreig y Gwastatiroedd Mawr yn dilyn ymgyrch codi arian. Adeiladwyd yr adeilad yn y 1940au a dyma oedd safle gwreiddiol Kohlmeyer's Hatchery.

Y Ganolfan

Mae’r ganolfan yn cynnwys ystafell hanes llafar, theatr ddigidol/auditorium, ystafell arddangos, swyddfa a siop anrhegion.

Defnyddir y ganolfan i ddehongli hanes Cymry-America a’r ymsefydlwyr cynnar o Gymru i’r Gwastatiroedd Mawr drwy arddangosfeydd rhyngweithiol, gwrthrychau a hanesion llafar. Cynhelir digwyddiadau i gyd-fynd â Diwrnod Sam Weymor (sylfaenydd y dref) a Diwrnod Santes Dwynen, Gwyliau Cymreig a digwyddiadau cymunedol a chyfleoedd addysgiadol drwy gydol y flwyddyn.

Remove ads

Gardd Gymreig

I’r gogledd o’r adeilad, mae’r grŵp yn berchen ar ddarn dir sy’n ardd Gymreig ac yn fan eistedd. Mae yma furlun 80 troedfedd gan David Lowenstein o Kansas.

Gweler hefyd

Dolenni Allanol

Cyfeiriadau

Loading related searches...

Wikiwand - on

Seamless Wikipedia browsing. On steroids.

Remove ads