Nebraska
talaith yn Unol Daleithiau America From Wikipedia, the free encyclopedia
Remove ads
Mae Nebraska yn dalaith yng ngogledd canolbarth yr Unol Daleithiau, sy'n gorwedd i'r gorllewin o Afon Missouri. Mae'n cynnwys rhan o'r Iseldiroedd Canolog yn y dwyrain a rhan o'r Gwastadiroedd Mawr yn y gorllewin. Cafodd ei archwylio gan y Ffrancod a'r Sbaenwyr. Roedd yn rhan o Bryniant Louisiana gan yr Unol Daleithiau yn 1803. Daeth yn dalaith yn 1867, a datblygodd yn gyflym fel canolfan ransio. Lincoln yw'r brifddinas.

Mae'r hen prairies a'i gyrroedd byffalo a oedd mor annwyl gan y Sioux a Cheyenne brodorol wedi hen ddiflannu. Yn eu lle ceir y caeau mawr agored sydd mor nodweddiadol o'r dalaith heddiw. Diflasodd T. H. Parry-Williams ar undonedd yr ardaloedd gwledig wrth deithio trwy'r dalaith yn y trên yn 1935:
Chwythed y peiriant y mwg o'i gorn
Dros y gwastadeddau indian-corn,
Gan leibio'r dwyrain i'w grombil tân,
A hollti'r pellterau ar wahân,
I mi gael cyrraedd rhyw dir lle mae
Rhywbeth i'w weld heblaw gwlad o gae.
(Synfyfyrion, 1937)
Remove ads
Dinasoedd Nebraska
| 1 | Omaha | 408,958 |
| 2 | Lincoln | 258,379 |
| 3 | Bellevue | 50,137 |
| 4 | Grand Island | 48,520 |
| 5 | Kearney | 30,787 |
Dolen allanol
- (Saesneg) www.nebraska.gov
Wikiwand - on
Seamless Wikipedia browsing. On steroids.
Remove ads

