Carnolyn
From Wikipedia, the free encyclopedia
Remove ads
Grŵp enfawr ac amrywiol o famaliaid pedwartroed carnog yw carnolion. Maent fel arfer yn byw yn yrroedd gyda'i gilydd ar dir agored lle mae digon o laswellt neu ddail. Mae'r ddafad yn garnolyn yn ogystal a'r ceffyl, y fuwch, y jiráff, y camel, y carw, yr afonfarch, y morfil a'r dolffin.
Mae'r rhan fwyaf ohonynt yn rhoi eu holl bwysau ar flaeanau eu carnau, tra'n symud. Ar wahân i'r mochyn, maent i gyd yn llysysyddion. Hyd at yn ddiweddar nid ystyriwyd y morfilogion (y morfil, y llamhidydd a'r dolffin) yn garnolion gan nad ydynt yn rhanu'r un priodweddau a chymeriad. Bellach, fodd bynnag, fe'u hystyrir yn perthyn i'r carnolyn eilrif-fyseddog.[1]
Arferid cyfri'r carnolyn yn urdd, ond bellach mae wedi'r rannu i'r canlynol:
- carnolion odfyseddog (Perissodactyla)
- carnolion eilrif-fyseddog (Artiodactyla)
- Tubulidentata (grugarth)
- Hyracoidea (hyracsod)
- Sirenia (manatïaid a dwgong)
- Proboscidea (eliffantod)[2]
Ceir cryn anghytundeb am hyn, fodd bynnag ymhlith y gwyddonwyr.
Remove ads
Cyfeiriadau
Wikiwand - on
Seamless Wikipedia browsing. On steroids.
Remove ads
