Paleosen
From Wikipedia, the free encyclopedia
Remove ads
Cyfres neu Epoc ddaearegol ydy'r Paleosen (symbol Pε)[1] gyda'i ystyr llythrennol yn golygu "y diweddar cynnar". Yr ansoddair yw Paleosenaidd (Saesneg: Paleocene neu Palaeocene). Parhaodd yr epoc hwn rhwng tua 65.5±0.3 miliwn o flynyddoedd yn ôl hyd at tua 55.8±0.2 Ma. Dyma epoc cyntaf y gyfres Paleogen yn yr era Cenosoig. Oed y creigiau sy'n pennu dyddiadau'r gyfres hon ac maent wedi'u diffinio'n eitha pendant.

- Gofal: ceir cyfnod arall gydag enw tebyg: Paleogen.
Mae'r epoc hwn yn dilyn y digwyddiad enfawr hwnnw pan ddiflannod y deinosoriaid a llawer o anifeiliaid a phlanhigion eraill, a'r epoc blaenorol, sef y Cretasaidd. Gadawodd hyn wacter ecolegol enfawr. Ystyr "paleo" yn y Groeg ydy "hynaf" (παλαιός a "newydd" (καινός yw ystyr kainos a gwelwyd ffawna newydd yn ystod yr epoc yma, cyn gweld esblygu mathau newydd o anifeiliaid e.e. y mamal yn yr epoc sy'n dilyn (sef yr Eosen).
Rhennir y Paleosen yn dair rhan geolegol, o'r ieuenga i'r hynaf:
Thanetaidd | (58.7±0.2 – 55.8±0.2 Ma) |
Selandaidd | (61.7±0.2 – 58.7±0.2 Ma) |
Daniaidd | (65.5±0.3 – 61.7±0.2 Ma) |
Ar ben hyn, mae'r Paleosen ei hun yn cael ei rannu'n 6 ardal mamalaidd.
Remove ads
Gweler hefyd
Cyfeiriadau
Wikiwand - on
Seamless Wikipedia browsing. On steroids.
Remove ads