Castell-paen

pentref ym Mhowys, Cymru From Wikipedia, the free encyclopedia

Castell-paen
Remove ads

Pentref a chymuned ym Mhowys, Cymru, yw Castell-paen[1] (Saesneg: Painscastle).[2] Fe'i enwir ar ôl ei gastell, Castell Paun. Saif yn agos i'r ffin â Lloegr, tua hanner y ffordd rhwng Llanfair-ym-Muallt a'r Gelli Gandryll.

Ffeithiau sydyn Math, Poblogaeth ...
Remove ads

Hanes y castell

Daw'r enw Castell Paun o enw'r arglwydd Normanaidd Pain Fitz John, a adeiladodd y castell cyntaf yma yn hanner cyntaf y 12g. Lladdwyd ef gan y Cymry yn 1137, a daeth ardal Elfael i feddiant Madog ab Idnerth. Cipiwyd y castell gan William de Braose tua 1195. Ymosodwyd ar y castell gan beiriannau rhyfel[3] nerthol byddin Rhys ap Gruffudd, Tywysog Deheubarth, yn 1196, ac ildiodd y castell iddo; o fewn wythnosau, gwnaed cytundeb heddwch. Yn 1198 gosododd Gwenwynwyn ab Owain o Bowys warchae ar y castell ond gorchfgwyd ef gan fyddin dan Geoffrey fitz Peter a lladdwyd oddeutu 3,000 o Gymry.[4]

Meddianwyd y castell gan Iorwerth Clud yn 1215. Llosgwyd y castell gan y Cynry yn ystod ymgyrchoedd Llywelyn ap Iorwerth yn y cylch. Fe'i hail-adeiladwyd fel castell o gerrig gan y brenin Harri III a Hubert de Burgh yn 1231. Yn 1233 daeth y castell i feddiant Ralph Tosny, a bu ym meddiant y teulu hyd nes i Llywelyn ap Gruffudd ei gipio yn 1265. Ail-adeiladwyd y castell gan Ralph Tosny arall yn 1276.

Remove ads

Llyfryddiaeth

  • Remfry, P.M., Painscastle, 1066 to 1405

Cyfeiriadau

Loading related searches...

Wikiwand - on

Seamless Wikipedia browsing. On steroids.

Remove ads