Gwenwynwyn ab Owain

arglwydd Powys From Wikipedia, the free encyclopedia

Gwenwynwyn ab Owain
Remove ads

Roedd Gwenwynwyn ab Owain Cyfeiliog (bu farw tua 1216) yn dywysgog Powys Wenwynwyn o 1195 ymlaen. Oddi wrtho ef y cymerodd y deyrnas hon, a grewyd pan rannwyd teyrnas Powys yn ddwy, ei henw.

Ffeithiau sydyn Ganwyd, Bu farw ...
Thumb
Arfau Gwenwynwyn ab Owain
Remove ads

Bywgraffiad

Daeth Gwenwynwyn yn rheolwr Powys Wenwynwyn ar farwolaeth ei dad, Owain Cyfeiliog. Ym mlynyddoedd olaf y 12g ceisiodd Gwenwynwyn ei sefydlu ei hun fel arweinydd y tywysogion Cymreig, a gosododd warchae ar Gastell Paun yn 1198, ond gorchfygwyd ef gan fyddin Normanaidd dan Geoffrey Fitz Peter.

Yn fuan daeth Gwenwynwyn i wrthdrawiad a Llywelyn Fawr oedd wedi dod yn dywysog Gwynedd. Bwriadodd Llywelyn ymosod ar Bowys Wenwynwyn yn 1202, ond gwnaed heddwch rhyngddynt gan yr eglwys. Ar y dechrau roedd y brenin John o Loegr yn cefnogi Gwenwynwyn, ond yn ddiweddarach gwnaeth Llywelyn gytundeb a John a phriodi ei ferch Siwan.

Yn 1208 aeth pethau'n ddrwg rhwng Gwenwynwyn a John pan ymosododd Gwenwynwyn ar diroedd un o arglwyddi'r Mers. Galwyd Gwenwynwyn i Amwythig i weld y brenin, a phan gyrhaeddodd yno cymerwyd ef yn garcharor. Achubodd Llywelyn y cyfle i feddiannu llawer o'i diroedd.

Rhwng 1212 a 1216 oedd Gwenwynwyn mewn cynghrair a Llywelyn, ond y flwyddyn honno dychwelodd John rai o'i diroedd iddo a gwnaeth gynghrair a'r brenin yn erbyn Llywelyn. Ymateb Llywelyn oedd ymosod ar Bowys Wenwynwyn a gyrru Gwenwynwyn ar ffo. Symudodd ei lys o'r hen lys brenhinol ym Mathrafal i'r Trallwng. Yn ddiweddarach ffoes i Loegr, lle bu farw tua'r flwyddyn 1216.

Dilynwyd Gwenwynwyn gan ei fab Gruffudd ap Gwenwynwyn, ond meddianwyd Powys Wenwynwyn gan Lywelyn.

Remove ads

Llyfryddiaeth

  • J. E. Lloyd, A History of Wales (1911)
Rhagflaenydd:
Owain Cyfeiliog
Tywysog Powys Wenwynwyn
11951216
Olynydd:
Llywelyn Fawr
Loading related searches...

Wikiwand - on

Seamless Wikipedia browsing. On steroids.

Remove ads