Cegidfa
pentref ym Mhowys, Cymru From Wikipedia, the free encyclopedia
Remove ads
Pentref a chymuned ym Mhowys, Cymru, yw Cegidfa[1] (Saesneg: Guilsfield). Saif i'r gogledd o'r Trallwng ar ffordd y B4392.

Tyfodd y pentref ei hun yn sylweddol yn ystod rhan olaf yr 20g. Dyddia rhan o'r eglwys, a gysegrwyd i Sant Aelhaearn, i tua 1300. Yma y cymerwys Syr John Oldcastle, un o arweinwyr y Lolardiaid, yn garcharor yn 1417.
Yng Nghoedlan Crowther yn y gymuned, cafwyd hyd i gasgliad o arfau a chelfi o Oes yr Efydd a elwir yn Gasgliad Cegidfa. Maent yn awr yn Amgueddfa Genedlaethol Cymru.
Cynrychiolir yr ardal hon yn Senedd Cymru gan Russell George (Ceidwadwyr)[2] ac yn Senedd y DU gan Steve Witherden (Llafur).[3]
Roedd poblogaeth y gymuned yn 2001 yn 1,640.
Remove ads
Cyfrifiad 2011
Yng nghyfrifiad 2011 roedd y sefyllfa fel a ganlyn:[4][5][6]
Remove ads
Cyfeiriadau
Wikiwand - on
Seamless Wikipedia browsing. On steroids.
Remove ads