Y Trallwng

tref a chymuned ym Mhowys From Wikipedia, the free encyclopedia

Y Trallwng
Remove ads

Tref a chymuned ym Mhowys, Cymru, yw Y Trallwng[1] (Saesneg: Welshpool;[2] cyn 1835 Pool). Saif yng ngogledd-ddwyrain y sir ar lan Afon Hafren, 4 milltir (6.4 km) o'r ffin rhwng Cymru â Lloegr. Arferai fod yn yr hen Sir Drefaldwyn. Gerllaw, i'r dwyrain, saif Cefn Digoll (408 metr (1,339 tr), a chwaraeodd ran mor allweddol yn amddiffyn y genedl oddi wrth y goresgynwyr estron: y Saeson. Yma ar 16 Awst 1485 y cyfarfu dwy fyddin: milwyr Harri Tudur (tua dwy fil o filwyr) a byddin Rhys ap Thomas (tua 3,000) gan uno'n un fyddin gref; oddi yma teithiodd y fyddin tua'r dwyrain i'r Amwythig ac ymlaen i Faes Bosworth.

Ffeithiau sydyn Math, Poblogaeth ...

Ceir yn y Trallwng farchnad ddefaid, a gynhelir bob dydd Llun, yw'r mwyaf o'i fath yn Ewrop.[3] Tua milltir o'r dref saif Castell Powys, a godwyd yn wreiddiol gan y Tywysogion Cymreig yn y 13g. Cysegrir y ddwy eglwys i sant Cynfelyn.

Cynrychiolir yr ardal hon yn Senedd Cymru gan Russell George (Ceidwadwyr)[4] ac yn Senedd y DU gan Alex Davies-Jones (Llafur).[5]

Thumb
Neuadd y Dref, Y Trallwng
Remove ads

Hanes

Mae ffiniau plwyf Eglwys St Cynfelin fwy neu lai'n dilyn hen ffiniau cwmwd Ystrad Marchell, o fewn cantref Ystlyg yn Nheyrnas Powys.[6][7]

Am gyfnod byr, o tua 1212, y Trallwng oedd prifddinas Powys Wenwynwyn (sef de Powys).

Cyfrifiad 2011

Yng nghyfrifiad 2011 roedd y sefyllfa fel a ganlyn:[8][9][10]

Rhagor o wybodaeth Cyfrifiad 2011 ...
Remove ads

Oriel

Cyfeiriadau

Loading related searches...

Wikiwand - on

Seamless Wikipedia browsing. On steroids.

Remove ads