Cerbyd trydan cell danwydd

From Wikipedia, the free encyclopedia

Cerbyd trydan cell danwydd
Remove ads

Mae cerbyd trydan cell danwydd (Saesneg: Fuel Cell Electric Vehicle neu FCV) yn fath o gerbyd hydrogen sy'n defnyddio cell danwydd i gynhyrchu trydan. Mae'r trydan a gynhyrchir yn y gell danwydd, trwy ocsideiddio hydrogen, yn pweru'r modur trydanol; daw'r ocsigen o'r aer. Gyrrir modur y cerbyd gan y gell danwydd hon; mewn cyferbyniad, mae gan y cerbyd hydrogen beiriant tanio mewnol lle llosgir hydrogen i ryddhau'r egni sy'n gyrru'r cerbyd. Yn 2015 gobeithia'r cwmni ceir Toyota werthu 700 o geir Mirai, sef y car masnachol cyntaf i gynnwys cell danwydd.[1]

Ffeithiau sydyn Math, Dynodwyr ...
Thumb
Y car masnachol cyntaf: yr Toyota Mirai.
Thumb
Honda 2008 FCX Clarity.
Remove ads

Disgrifiad a phwrpas

Mae tair rhan i'r gell danwydd: electrolyt, anod a chathod.[2] Yn fras, mae'r gell yn gweithio'n debyg iawn i'r batri, gan gynhyrchu trydan sydd yn ei dro'n gyrru'r motor. Yn hytrach na chael ei ailwefru, fodd bynnag, ailgyflewnir y gell gan hydrogen.[3] Ceir gwahanol fathau ohonyn nhw gan gynnwys polymer electrolyte membrane (PEM), direct methanol fuel cells, cell danwydd asid ffosfforig, celloedd danwydd carbonad, celloedd danwydd solid oxide, a Regenerative Fuel Cells.[4]

Yn 2009 yn yr U.D.A. roedd cerbydau petrol yn cynhyrchu dros 60% o garbon monocsid y wlad.[5] Mewn cyferbyniad, mae cerbyn trydan cell danwydd hydrogen pur yn allyrru ychydig iawn o lygryddion, gan gynhyrchu'n bennaf dŵr a gwres.[6][7]

Remove ads

Cerbydau lôn

Thumb
Yr Yamaha FC-me yn Shinkou, Naka-ward, Yokohama Kanagawa, Japan.

Mae'r rhan fwyaf o'r cerbydau sy'n cynnwys cell danwydd yn gerbydau codi a chario nwyddau ee y fforclifft.[8] Yn 2015 cychwynwyd gwerthu ceir masnachol sy'n cynnwys cell danwydd; lansiwyd dros 20 prototeip rhwng 2009 a 2014.[9] Mae'n bosibl y gwelir y canlynol yn cael eu masnachu yn ystod y blynyddoedd nesaf: GM HydroGen4, Honda FCX Clarity, Toyota FCHV-adv a'r Mercedes-Benz F-Cell. Mae Llywodraeth Japan yn rhoi nawdd ariannol i Toyota, sydd ar fin lansio car cell danwydd (y 2015 Hyundai Tucson) a fydd yn costio 69,000,[10] a'r Toyota Mirai ("y dyfodol" yn Japanieg).[11][12] Dadorchuddiwyd y Mirai yn Nhachwedd 2014 yn sioe geir Los Angeles Auto Show. Bydd 700 o'r ceir hyn yn cael eu gwerthu gan Toyota yn 2015.[13]

Remove ads

Awyrennau

Thumb
Diamond HK36 Super Dimona EC-003 gan Boeing yn 2008

Cynhaliodd ymchwilwyr Boeing nifer o deithiau awyr arbrofol yn Chwefror 2008 mewn awyrennau di-beilot wedi'i bweru gan gell danwydd yn unig a batris ysgafn. Defnyddiai gell danwydd Proton Exchange Membrane (PEM) a batri lithium-ion heibrid i yrru motor trydanol, wedi'i gyplysu i'r llafn wthio (neu "propelar").[14]

Yn 2003, diystyriwyd y batri a hedfanodd awyren wedi'i bweru'n unig gan gell danwydd, o fath FlatStackTM.[15] Yn 2009 hedfanodd awyren o eiddo'r Naval Research Laboratory (NRL’s) awyren Ion Tiger am 23 awr ac 17 munud.[16] Roedd Boeing yn 2001 ar fin lansio'r Phantom Eye sef awyren teithio'n uchel i gynnal ymchwil ac ysbio ar uchter o 65,000 o droedfeddi am hyd at bedwar diwrnod heb ail-lenwi.[17]

Cychod

Thumb
Christian Machens a'i gwch Yr Almaen yn 2000.

Y cwch trydan cell danwydd cyntaf i ymddangos oedd yr "Hydra" sy'n defnyddio'r system AFC, gyda gyriant o 6.5 kW.

Mae'r gell danwydd yn llawer mwy effeithiol na'r dulliau confensiynol o yrru cerbydau ac yn allyrru llai o halogiad i'r atmosffêr.[18] O'r herwydd mae Gwlad yr Iâ wedi addunedu i addasu eu holl lynges pysgota i ddefnyddio cell danwydd erbyn 2015.

Mae'r llong danfor Math 212 yn cael ei defnyddio gan lyngesau'r Almaen a'r Eidal. "[19] Mae'r llongau'n cynnwys naw cell danwydd o fath PEM gan ddarparu rhwng 30 kW a 50 kW yr un o bwer trydanol.

Remove ads

Gweler hefyd

Cyfeiriadau

Loading related searches...

Wikiwand - on

Seamless Wikipedia browsing. On steroids.

Remove ads