Christopher Plummer
From Wikipedia, the free encyclopedia
Remove ads
Actor o Ganada oedd Arthur Christopher Orme Plummer, CC (13 Rhagfyr 1929 – 5 Chwefror 2021). Roedd ei yrfa yn ymestyn dros saith degawd ac yn cynnwys rhannau sylweddol mewn ffilm, theatr a theledu. Efallai fod Plummer yn fwyaf adnabyddus am ei rôl eiconig fel Capten Georg von Trapp yn y ffilm The Sound of Music.
Cafodd Arthur Christopher Orme Plummer ei eni yn Toronto, Ontario,[1] yn fab i John Orme Plummer[2] a'i wraig Isabella Mary (née Abbott), sy'n gweithio fel ysgrifennydd ym Mhrifysgol McGill. Roedd hi'n wyres Syr John Abbott, cyn-Prif Weinidog Canada.[3]
Priododd yr actores Americanaidd Tammy Grimes ym 1956 (ysgarodd 1960). Roedd gan y cwpl un ferch, Amanda Plummer (g. 1957). Priododd ei ail wraig, Patricia Lewis, ym 1962 (ysgarodd 1967).
Priododd yr actores Seisnig Elaine Taylor ym 1970.
Enillodd Plummer y Wobr yr Academi am yr actor cefnogol gorau ym 2011 am ei rôl yn y ffilm Beginners. Gwnaeth hyn ef y person hynaf i ennill Gwobr Academi actio.
Remove ads
Cyfeiriadau
Wikiwand - on
Seamless Wikipedia browsing. On steroids.
Remove ads
