Chwilog
pentref yng Ngwynedd From Wikipedia, the free encyclopedia
Remove ads
Mae Chwilog ( ynganiad ) yn bentref bach yng ngorllewin Eifionydd, yng Ngwynedd, rhwng Pwllheli a Llanystumdwy. Saif ar lan Afon Wen, sy'n rhedeg i Fae Tremadog filltir islaw'r pentref. Mae'n rhan o gymuned Llanystumdwy.
Cynrychiolir yr ardal hon yn Senedd Cymru gan Mabon ap Gwynfor (Plaid Cymru)[1] ac yn Senedd y DU gan Liz Saville Roberts (Plaid Cymru).[2]
Agorwyd Ysgol Gynradd Chwilog yn 1908 gan Mrs Margaret Lloyd George, gwraig y gwleidydd enwog David Lloyd George.

Remove ads
Enwogion
- John Thomas (Siôn Wyn o Eifion), bardd ac emynydd
- Brodorion o Chwilog oedd rhieni'r bardd Eifion Wyn. Cafodd ei gladdu ym mynwent eglwys Chwilog wrth ymyl bedd ei chwaer.
- Ceir bedd yr hynafiaethydd John Jones (Myrddin Fardd) ym mynwent yr eglwys hefyd. Er iddo gael ei eni yn Llangïan, symudodd i fyw a gweithio yn Chwilog pan yn ifanc.
Gweler hefyd
Cyfeiriadau
Wikiwand - on
Seamless Wikipedia browsing. On steroids.
Remove ads