Colchester
dinas yn Essex, y Deyrnas Unedig From Wikipedia, the free encyclopedia
Remove ads
Tref farchnad yn Essex, Dwyrain Lloegr, yw Colchester[1] (Hen Gymraeg: Caer Colun).[2] Fe'i lleolir mewn ardal ddi-blwyf yn ardal an-fetropolitan Bwrdeistref Colchester. Saif ar Afon Colne.
Yng Nghyfrifiad 2021 roedd gan ardal adeiledig Colchester boblogaeth o 138,753.[3]
Yn ôl traddodiad, cafodd ei sefydlu gan Cunobelinus (Cynfelyn yn y traddodiad Cymreig) tua'r flwyddyn OC 10. Tyfodd i fod yn un o ddinasoedd pwysicaf y Brydain Rufeinig, sef Camulodunum. Gellir gweld rhannau o'r muriau Rhufeinig o hyd. Mae ganddi gastell Normanaidd yn ogystal.
Cafodd y gwleidydd o Gymraes Helen Mary Jones ei geni yno yn 1960.
Remove ads
Gweler hefyd
Cyfeiriadau
Wikiwand - on
Seamless Wikipedia browsing. On steroids.
Remove ads

