Coleg Prifysgol Llundain

prifysgol yn Llundain From Wikipedia, the free encyclopedia

Coleg Prifysgol Llundain
Remove ads

Mae Coleg Prifysgol Llundain (Saesneg: University College London neu UCL) yn rhan o Brifysgol Llundain. Dyma'r sefydliad addysg uwch mwyaf yn Llundain a'r sefydliad mwyaf ar gyfer myfyrwyr â gradd yn y Deyrnas Unedig.[1] Mae'n aelod o'r League of European Research Universities.

Ffeithiau sydyn Arwyddair, Math ...

Fe'i sefydlwyd ar 11 Chwefror 1826, yn seiliedig ar syniadau radical yr athronydd Jeremy Bentham. Hon oedd y brifysgol gyntaf yn Lloegr i dderbyn myfrywyr nad oedd yn aelodau o Eglwys Loegr, a'r cyntaf i dderbyn merched. Lleolir ei phrif adeilad, a godwyd i gynlluniau neo-glasurol y pensaer William Wilkins, yn ardal Bloomsbury yng nghanol Llundain.

Mae ysgol gelf y Slade, lle astudiodd Gwen John ac Augustus John ymhlith nifer o arlunwyr eraill, yn rhan o Goleg Prifysgol Llundain. Fe'i sefydlwyd ym 1871 gyda rhodd gan y cyfreithiwr Felix Slade.

Remove ads

Oriel

Thumb
Oriel Flaxman yn Adeilad Wilkins
Oriel Flaxman yn Adeilad Wilkins 
Thumb
Ysbyty Coleg Prifysgol Llundain
Ysbyty Coleg Prifysgol Llundain 

Myfyrwyr

Cyfeiriadau

Dolen allanol

Loading related searches...

Wikiwand - on

Seamless Wikipedia browsing. On steroids.

Remove ads