Colmar

From Wikipedia, the free encyclopedia

Colmar
Remove ads

Dinas hanesyddol yng ngogledd-ddwyrain Ffrainc sy'n brifddinas département Haut-Rhin yn région Grand Est yw Colmar. Gorwedda ar lan orllewinol Afon Rhein rhwng Mulhouse i'r de a Strasbourg i'r gogledd. Mae ganddi boblogaeth o 67,163.

Thumb
Lleoliad Colmar yn département Haut-Rhin
Ffeithiau sydyn Math, Poblogaeth ...
Thumb
Rhan o hen ddinas Colmar

Fel gweddill Alsace, mae gan Colmar gysylltiadau hanesyddol cryf â'r Almaen. Meddiannwyd y ddinas gan yr Almaenwyr o 1871 hyd 1919 ac eto yn yr Ail Ryfel Byd (1940-1945).

Mae ganddi nifer o adeiladau hanesyddol o'r Oesoedd Canol ymlaen, yn cynnwys y fynachlog Ddominicaidd (sefydlwyd yn y 13g). Mae'n ganolfan i'r fasnach mewn gwinoedd Alsace ers canrifoedd.

Remove ads

Dolenni allanol

Eginyn erthygl sydd uchod am Ffrainc. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.
Loading related searches...

Wikiwand - on

Seamless Wikipedia browsing. On steroids.

Remove ads