Départements Ffrainc
From Wikipedia, the free encyclopedia
Remove ads
Mae départements Ffrainc (Ffrangeg: Départements de France Llydaweg: Departamantoù gall, Basgeg: Frantziako departmenduak) yn ardaloedd gweinyddol yn Ffrainc a grëwyd yn 1790 ar ôl y Chwyldro Ffrengig. Defnyddir y term i gyfeirio at israniadau nifer o gyn-wladfeydd Ffrainc yn ogystal. Mae'r ardaloedd yn wleidyddol yn cyfateb yn fras i'r siroedd ym Mhrydain. Mae 101 département Ffrainc wedi eu grwpio yn 13 région (rhanbarth) y Ffrainc Fetropolitan a 5 rhanbarth tramor. Mae gan bob département statws cyfreithiol fel rhannau annatod o Ffrainc. Is-rennir y rhanbarthau yn ogystal yn 342 arrondissement (bwrdeistref).
Remove ads
Rhestr départements Ffrainc
Nodiadau:
- Neilltuwyd rhif 75 ar gyfer Seine gynt.
- Neilltuwyd rhif 78 ar gyfer Seine-et-Oise gynt.
- Neilltuwyd rhif 91 ar gyfer Alger, yn yr Algeria Ffrengig gynt.
- Neilltuwyd rhif 92 ar gyfer Oran, yn yr Algeria Ffrengig gynt.
- Neilltuwyd rhif 93 ar gyfer Constantine, yn yr Algeria Ffrengig gynt
- Sefydlwyd prefecture Val-d'Oise yn Pontoise pan grëwyd y département, ond fe'i symudwyd de facto i gomiwn cyfagos Cergy; gyda'i gilydd maent yn creu ville nouvelle Cergy-Pontoise.
- Mae'r départements tramor yn gyn-wladfeydd tu allan i Ffrainc, sydd erbyn hyn yn mwynhau statws yn un fath a Ffrainc fetropolitan. Maent yn rhan o Ffrainc a'r Undeb Ewropeaidd, er bod rheolau arbennig yr UE yn gymwys. Mae pob un ohonynt yn ardal o Ffrainc ar yr un pryd.
- Ers 2018, mae dau département Corsica wedi uno bellach at ddibenion gwleidyddol, ond yn dal i fodoli yn rhestr y circonscriptions
- Ers 2015, mae Métropole Lyon wedi ei gwahanu o département y Rhône gyda statws arbennig.
- Ers 2021, mae dau département Alsas wedi uno at ddibenion gwleidyddol.
Remove ads
Hen Départements
Yn nhiriogaeth bresennol Ffrainc
Ail-enwi
Ail-enwyd rhai o départements Ffrainc, y rhan fwyaf er mwyn cael gwared a'r termau Inférieure ('is') a Basses ('isel'):
Algeria Ffrengig

Cyn 1957
1957–1962
Départements yng nghyn-wladfeydd Ffrainc
Remove ads
Wikiwand - on
Seamless Wikipedia browsing. On steroids.
Remove ads