Colombia
gwlad sofran yn Ne America From Wikipedia, the free encyclopedia
Remove ads
Gwlad yng ngogledd-orllewin De America yw Gweriniaeth Colombia neu Colombia (Sbaeneg: República de Colombia, /re'puβ̞lika ð̞e ko'lombja/). Mae'n ffinio â Feneswela a Brasil i'r dwyrain, Ecwador a Pheriw i'r de, y Cefnfor Iwerydd i'r gogledd (trwy Fôr y Caribî), a Phanama a'r Cefnfor Tawel i'r gorllewin. Colombia yw'r unig wlad yn Ne America gydag arfordiroedd â'r Cefnforoedd Iwerydd a Thawel.
Colombia yw'r wlad fwyaf ond tri yn Ne America yn nhermau arwynebedd (yn dilyn Brasil, yr Ariannin a Pheriw), a'r mwyaf ond un yn nhermau poblogaeth (yn dilyn Brasil). Mae'r mwyafrif o Golombiaid yn byw yng ngorllewin mynyddig y wlad, lle lleolir y brifddinas Bogotá a'r rhan fwyaf o ddinasoedd eraill. Mae daearyddiaeth amrywiol gan Golombia, o gopaon eiraog yr Andes i wastatiroedd twym, llaith Afon Amazonas.
Am y pedair degawd diwethaf, dioddefa Colombia gwrthdaro arfog ar raddfa fechan sy'n cynnwys mudiadau gwrthryfelwyr herwfilwrol, milisiâu, a masnachu cyffuriau. Dechreuodd y gwrthdaro tua 1964-1966, pan sefydlwyd yr FARC a'r ELN a dechreuont eu hymgyrchoedd gwrthryfelgar herwfilwrol yn erbyn y llywodraethau olynol. Ers etholiad Álvaro Uribe fel Arlywydd Colombia, mae sefyllfa diogelwch y wlad wedi gwella rhywfaint.
Remove ads
Daearyddiaeth
Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu at yr adran hon.
Hanes
Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu at yr adran hon.
Gwleidyddiaeth
Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu at yr adran hon.
Diwylliant
Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu at yr adran hon.
Economi
Mae'r wlad yn enwog fel un o'r cynhyrchwyr coffi mwyaf yn y byd. Mae tyfu coca yn ddiwydiant traddodiadol hefyd.
Dolenni allanol
- (Sbaeneg) Gwefan swyddogol Arlywydd Colombia
- (Sbaeneg) Gwefan swyddogol Senedd Colombia
Wikiwand - on
Seamless Wikipedia browsing. On steroids.
Remove ads


