Crai Perm
From Wikipedia, the free encyclopedia
Remove ads
Un o ddeiliaid ffederal Rwsia yw Crai Perm (Rwseg: Пе́рмский край, Permsky kray; 'Perm Krai'). Canolfan weinyddol y crai (krai) yw dinas Perm. Poblogaeth: 2,635,276 (Cyfrifiad 2010).


Lleolir y crai yn rhanbarth gweinyddol Dosbarth Ffederal Volga, yn ne Rwsia, ar lethrau gorllewinol canol Mynyddoedd yr Wral. Mae'n ffinio gyda Gweriniaeth Komi yn y gogledd, Oblast Kirov yn y gogledd-orllewin, Gweriniaeth Udmurt yn y de-orllewin, Gweriniaeth Bashkortostan yn y de, ac Oblast Sverdlovsk yn y dwyrain.
Llifa Afon Kama, un o lednentydd Afon Volga, drwy'r crai. Mae afonydd mawr eraill yn cynnwys Afon Chusovaya ac Afon Sylva. Mae'n ardal sy'n gyfoethog ei hadnoddau naturiol, yn cynnwys olew, nwy, halen potasiwm ac aur.
Sefydlwyd Crai Perm ar 1 Rhagfyr, 2005 fel canlyniad i refferendwm 2004 ar uno Oblast Perm ac Ocrwg Ymreolaethol Komi-Permyak.
Remove ads
Dolenni allanol
- (Rwseg) Gwefan swyddogol y crai Archifwyd 2005-05-30 yn y Peiriant Wayback
Wikiwand - on
Seamless Wikipedia browsing. On steroids.
Remove ads