Halen

cyfansoddyn cemegol From Wikipedia, the free encyclopedia

Halen
Remove ads

Cyfansoddyn cemegol gwyn yw halen a'r enw cemegol arno yw sodiwm clorid (fformiwla NaCl). Defnyddir halen i roi blas ar fwyd ac i gadw (neu brisyrfio) cigoedd. Mae ychydig ohono'n hanfodol i gynnal dyn ac anifeiliaid byw, ond mae gormod yn wael i'r iechyd, neu hyd oed angheuol.

Thumb
Gweithiwr yn trin halen yn Marakkanam in Tamil Nadu
Thumb
Halen
Ffeithiau sydyn Enghraifft o:, Math ...
Remove ads

Amrywiol ddefnydd

Thumb
Halen Môn ar werth yn eu siop ym Mrynsiecyn, Ynys Môn; Mehefin 2025

Defnyddir ef i ddadlaith rhew ar y ffyrdd.

Dyma gofnod yn nyddiadur William Jones Moelfre, Aberdaron[1]:

28 Mai 1884: sych Gorphen torri tywyrch cwt 5 Hau halen yn Cae'r Afon

Mae’n son llawer am "nôl halen", fel arfer yn yr hydref - ond "hau halen"? Beth a olygai - a’r dyddiad ynghanol y tymor? A thybed a oes a wnelo tyddyn Cae Halen Bach ym mhlwyf Llandwrog rhywbeth â’r cwestiwn. Mae yna lawer o enghreifftiau o enwau tebyg ar hyd a lled Cymru.

Remove ads

Cyfeiriadau

Loading related searches...

Wikiwand - on

Seamless Wikipedia browsing. On steroids.

Remove ads