Cwiar

From Wikipedia, the free encyclopedia

Cwiar
Remove ads

Yn draddodiadol mae'r gair Saesneg queer wedi golygu "rhyfedd" neu "anarferol", ond fe'i defnyddir yn aml erbyn heddiw mewn nifer o ieithoedd i gyfeirio at gymunedau hoyw, lesbiaidd, deurywiol, trawsryweddol, rhyngrywiol, ac anrhywiol. Arddelir y sillariad cwiar yn gynyddol yn y Gymraeg.[1] Cyhoeddwyd llyfr Cysur Cwiar: Canllaw Calonogol i Gariad, Bywyd ac Iechyd Meddwl LHDTC+, sy'n gyfieithiad o lyfr gan Alexis Caught, yn 2023 lle gwelir arddel y term a'r sillafiad "cwiar".[2]

Thumb
Baner yr enfys, symbol o'r gymuned LHDT.
Ffeithiau sydyn Cyfeiriadedd rhywiolrhan o rywoleg, Gwahaniaethau ...

Mae defnydd y gair yn ddadleuol ar ôl newidiadau sylweddol yn ystod y can mlynedd diwethaf. Tua diwedd y 19g datblygodd, o olygu "rhyfedd" yn ei ystyr ehangach, i olygu rhywun a oedd yn gwyro oddi ar dybiaethau'r cyfnod am "normalrwydd" rhywiol, ac fe'i cyfeiriwyd yn benodol at ddynion hoyw neu ferchetaidd. Mewn ymgais i ddinerthu grym negyddol y gair fel ymosodiad arnynt, aeth ymgyrchwyr hoyw yn chwarter olaf yr 20g ati i adfeddiannu'r gair a'i ddefnyddio mewn modd cadarnhaol, gan uniaethu â'r label queer, a'i ddefnyddio fel term mantell i ddisgrifio unrhyw gyfeiriadedd a hunaniaeth rywiol a/neu hunaniaeth ryweddol nad yw'n cydymffurfio â chymdeithas heteronormadol. Fodd bynnag, mae rhai yn credu ei fod yn parhau i fod yn derm rhy sarhaus i'w ddefnyddio mewn cyd-destun cadarnhaol.

Mewn ymgais i ganfod gair cyfatebol i'w ddefnyddio yn y Gymraeg, aeth rhai ymgyrchwyr hoyw yng Nghymru ati i ddefnyddio'r label hyfryd i uniaethu ag ef. Gan mai bathiad bwriadol ydyw yn yr ystyr honno, nid yw hyfryd yn Gymraeg yn cyfleu'r tyndra hanesyddol sydd ynghlwm â queer yn Saesneg; yn hytrach, ei ddiben yw cyfleu ochr gadarnhaol y gair Saesneg mewn cymunedau LHDT Cymraeg.

Remove ads

Hunaniaeth Cwiar Cymraeg

  • Cwiar Na Nog - Lansiwyd safle Cwiar Na Nog yn Eisteddfod Genedlaethol yr Urdd, Sir Gaerfyrddin 2023 gan Urdd Gobaith Cymru. Mae Ciwar Na Nog yn gymuned LDHTC+ ar gyfer aelodau'r Urdd. Mae'n gyfle i gymdeithasu, rhannu profiadau ac ymuno mewn digwyddiadau fel Pride Cymru.[3]
  • Paned o Gê - Siop lyfrau annibynnol yng Nghaerdydd a menter gymdeithasol sydd â’r bwriad o hyrwyddo a dathlu popeth LHDT+, talent Cymreig a chreuadigrwydd. Mae'r siop arlein yn bennaf, ond ceir presenoldeb yn The Queer Emporium hefyd. Cafwyd pabell Paned o Gê ar faes yr Eisteddfod Genedlaethol Cymru hefyd.[4]
Remove ads

Cyfeiriadau

Loading related searches...

Wikiwand - on

Seamless Wikipedia browsing. On steroids.

Remove ads