Cyflunedd
From Wikipedia, the free encyclopedia
Remove ads
Gelwir dau wrthrych geometrig yn gyflun os oes gan y ddau yr un siâp, neu fod y naill yn adlewyrchiad o'r llall, megis mewn drych. Yn fwy manwl, gellir ffurfio'r naill o'r llall drwy godi neu ostwng y raddfa, mewn modd unffurf; weithiau hefyd bydd yn rhaid troi'r siâp gwreiddiol, ei drawsfudo (translate) neu ei drawsffurfio eilwaith er mwyn cyrraedd yr ail siâp.

Pan fo dau siâp neu wrthrych yn gyflun, dywedir eu bod yn gyfath os oes ganddynt yr un siâp neu os oes gan y naill yr un siâp a maint â drychddelwedd y llall.
- Gwrthrychau cyflun
- Gwrthrychau nad ydynt yn gyflun
Remove ads
Yn y gofod Euclidaidd
Mae cyflunedd (neu "drawsffurfiad cyflun") y gofod Euclidaidd yn bijection[1] f o'r gofod iddo ef ei hun, sy'n lluosi pob pellter gan yr un rhif real positif r. Am bob dau bwynt, x a y, ceir
lle mae "d(x,y)" yn bellter Euclidaidd o x i y.[2]
Mae gan y sgalar r lawer o enwau, gan gynnwys "cymhareb cyflun", "y ffactor ymestyn" a'r "cyfernod cyflun".
Lle mae r = 1 gelwir y cyflunedd yn isometreg. Gelwir dwy set yn gyflun os yw'r naill yn ddelwedd o'r llall.
Fel map f : ℝn → ℝn, mae cyflunedd y gymhareb r yn cymryd y ffurf:
lle mae A ∈ On(ℝ) yn fatrics orthogonol n × n a t ∈ ℝn yw'r fector trawsfudol (translation vector).
Remove ads
Gweler hefyd
Cyfeiriadau
Wikiwand - on
Seamless Wikipedia browsing. On steroids.
Remove ads