Cynog Ferthyr

sant From Wikipedia, the free encyclopedia

Cynog Ferthyr
Remove ads

Sant o Gymru oedd Cynog Ferthyr, Cynog ap Brychan neu'r Abad Cynog (bu farw 492). Dethlir ei ddydd gŵyl ar 7 neu 8 Hydref.

Ffeithiau sydyn Ganwyd, Bu farw ...
Erthygl am y sant cynnar yw hon. Gweler hefyd Cynog (gwahaniaethu) a Cynog (esgob).

Yn ôl De Situ Brecheniauc Cynog oedd mab hynaf Brychan, brenin Brycheiniog. Yn ôl y Cognatio Brychan fe'i bedyddiwyd gan Sant Gastayn a oedd ag eglwys yn Mara, ger Llangasty Tal-y-llyn.

Dywedir i dad Brychan, Anlach, ei roi fel gwystl i Banadl, brenin Powys, pan oedd yn ifanc, ond cafodd Brychan berthynas gyda merch Banadl, sef Banhadlwedd a chafodd fab - Cynog.[1] Rhoddodd Brychan un o sawl torch o'i fraich yn anrheg i Cynon a chadwyd hi fel crair am ganrifoedd. Claddwyd ef ym Merthyr Cynog. Disgrifiodd Gerallt Gymro'r dorch fel 'breichled o liw, pwysau a theimlad ag aur; mae mewn pedair rhan wedi'u cysylltu gyda'i gilydd gan ben ci a'i ddannedd am allan' (Itin.Kamb., I.2). Cuddiodd Rhys ap Gruffudd, neu'r 'Arglwydd Rhys' y dorch er mwyn ei gadw'n ofalus yn Ninefwr (Itin. Kamb., II.2).

Cafodd ei ladd naill ai gan y Sacsoniaid neu gan fôrladron o Iwerddon ym Merthyr Gynog, Brycheiniog, yn y flwyddyn 492.

Remove ads

Eglwysi

Dywedir fod Cynog wedi sefydlu eglwysi yn Llangynog ym Mhowys, Defynnog, Ystrad Gynlais, Penderyn a Merthyr Cynog. Fe'i cysylltir hefyd â Llangynog (Sir Fynwy) (Llangunnock yn Saesneg; i'r de o Llanfihangel Tor-y-mynydd) a Llangunnock (Llangynog) yn Sir Henffordd[2].

Nodir ei enw yn y rhestr Gernyweg o blant Brychan, a cheir 'Boconnoc' ('Bod-conoke' yn 1382) (II.269) dair milltir i'r gogledd-ddwyrain o Lostwydhyel (Saesneg: Lostwithiel). Ceisiodd rhai ei gysylltu gyda Mochonóc, yn y rhestr Wyddelig, ond mae hyn yn annhebygol.

Rhestr Wicidata:

Rhagor o wybodaeth #, Eglwys neu Gymuned ...
Diwedd y rhestr a gynhyrchwyd yn otomatig o Wicidata.
Remove ads

Teithio

Mae'n debyg y bu ganddo gell meudwy. Ceir traddodiad iddo deithio i Gernyw gyda Sant Cadog.

Cyfeiria Gerallt Gymro at freichled a roddwyd i Gynog gan Frychan ac a addolwyd fel crair ar ddiwedd y 12g.

Iolo Morgannwg

Priodolodd Iolo Morgannwg nifer o wirebau (dywediadau doeth) i Gynog a gyhoeddwyd yn y Myvyrian Archaiology of Wales, ond gwyddys erbyn hyn eu bod yn ffrwyth dychymyg Iolo ei hun.

Gweler hefyd

Cyfeiriadau

Loading related searches...

Wikiwand - on

Seamless Wikipedia browsing. On steroids.

Remove ads