Defynnog

pentref ym Mhowys From Wikipedia, the free encyclopedia

Defynnog
Remove ads

Pentref bychan yng nghymuned Maescar, Powys, Cymru, yw Defynnog.[1] Saif yn ardal Brycheiniog yn ne'r sir, fymryn i'r de o Bontsenni ar groesffordd lle mae'r A4067 o Ystradgynlais yn cwrdd â'r A4215. I'r de-orllewin ceir Y Gaer, sef caer Rufeinig.[2]

Ffeithiau sydyn Math, Enwyd ar ôl ...

I'r de o'r pentref ceir y Fforest Fawr, sy'n ffurfio rhan ganolog Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog. I'r dwyrain o'r pentref ceir bryn 400 metr Cefn Llechid. Mae afon Senni yn llifo trwy'r pentref ar ei ffordd i aberu yn afon Wysg ger Pontsenni.

Cynrychiolir yr ardal hon yn Senedd Cymru gan James Evans (Ceidwadwyr)[3] ac yn Senedd y DU gan David Chadwick (Democratiaid Rhyddfrydol).[4]

Gwenllian Morgan (neu ar lafar Miss Philip Morgan) (9 Ebrill 1852 - 7 Tachwedd 1939) oedd y ferch gyntaf yng Nghymru i gael ei gwneud yn Faer (neu'n Faeres). Roedd yn hynafieithydd a chyhoeddodd lyfrau am ei hardal.

Remove ads

Eglwys Sant Cynog a'r garreg ogham

Thumb
Carreg ogham Eglwys Sant Cynnog

Cysegrir eglwys y plwyf i Sant Cynog, un o feibion Brychan, brenin Teyrnas Brycheiniog ac mae'r adeilad wedi'i chofrestru'n Radd 1 gan Cadw.[5] Dethlid gwylmabsant Cynog yr eilfed ddydd Iau o fis Hydref. Ceir colofn o garreg yn y llan a Chroes Geltaidd ar ei phen; ceir olion arysgrgif Ladin ac Ogam arni ond mae'n anarllenadwy bellach. Cyfarfu Daniel Rowland a Howel Harris am y tro cyntaf yn yr eglwys hon yn 1737.

Yn 1836 cysegrwyd eglwys arall ym mhlwyf Defynnog i Callwen.[6]

Ceir carreg gydag arysgrif Ladin o 5g neu 6g yn nhŵr yr eglwys. Arni nodir naill ai:

RVGMIATIO/FI0LI VENDONI

neu

D?0RVGNIATO/FI/LI VENDONI

"Carreg Rugniato, mab Vendonus".

Fe'i gosodwyd yn y mur yn y 14g a'i symud i gyntedd yr egwlys yn lled ddiweddar - gan ei gosod mewn concrid!

Remove ads

Hen ywen Defynnog

Ceir ym mynwent Eglwys Sant Cynog hen ywen y credir ei bod oddeutu 5,000 o flynyddoedd oed. Mae'n 60 troedfedd o led ac wedi hollti'n ddwy: y naill yn 40 tr a'r llall yn 20 tr. Yn ei bon, ceir 120 modrwy ym mhob modfedd! Ar ei heithaf, mae coron y goeden yn 60 tr mewn diametr.[7]

Cyfeiriadau

Loading related searches...

Wikiwand - on

Seamless Wikipedia browsing. On steroids.

Remove ads