Dafydd Alaw

bardd From Wikipedia, the free encyclopedia

Remove ads

Bardd o Ynys Môn oedd Dafydd Alaw (bl. 1546–1567).

Ffeithiau sydyn Ganwyd, Dinasyddiaeth ...

Bywgraffiad

Graddiodd Dafydd Alaw yn ail Eisteddfod Caerwys yn 1567 lle dyfarnwyd iddo'r radd Disgybl Ysbâs. Dyma'r unig ddyddiad pendant yn ei yrfa a chredir ei fod yn tynnu ymlaen at fod yn henwr erbyn hynny, sy'n awgrymu iddo gael ei eni tua throad yr 16g.

Cerddi

Ychydig iawn o'i gerddi sydd ar glawr heddiw, ond roedd yn fardd adnabyddus yng ngogledd-orllewin Cymru yn ei gyfnod a cheir cyfeiriadau ato yng ngwaith eraill o'i gyd-feirdd. Cerddi i noddwyr uchelwrol ym Môn yw'r testunau sydd wedi goroesi a gellir tybio mae ar yr ynys honno y byddai'n clera - sef mynd o gwmpas tai noddwyr i ganu cerddi - fel rheol. Roedd y noddwyr hyn yn cynnwys teulu plasdy Myfyrian (ger Llanfairpwll) a Syr Rowland Felfil, Cwnstabl Biwmares, mab anghyfreithlon Harri Tudur a thaid i Gatrin o ferain.[1][2][3] Canodd hefyd i deulu plasdy Mysoglen yng nghyfnod Huw ap Rhys ap Hywel, a dyma englyn ganddo i simnai newydd fawr y plas:

Simnai wen Fysgolen fawr sôn—amdani,
Lle denir cerddorion;
Eglurferch, fe'i gŵyl Arfon,
Pen-rhaith simneiau maith Môn.[4]

Remove ads

Cyfeiriadau

Loading related searches...

Wikiwand - on

Seamless Wikipedia browsing. On steroids.

Remove ads