David Mitchell
From Wikipedia, the free encyclopedia
Remove ads
Mae David James Stuart Mitchell (ganed 14 Gorffennaf 1974) yn gomediwr, actor ac ysgrifennwr Seisnig. Ef yw hanner y ddeuawd Mitchell and Webb gyda'i bartner comedi Robert Webb.
Remove ads
Gyrfa
Serenodd Mitchell gyda Webb yn y comedi sefyllfa Channel 4 Peep Show yn chwarae Mark Corrigan.[1] Mae'r ddeuawd wedi ysgrifennu a serennu mewn nifer o raglenni sgetsys gan gynnwys Bruiser, The Mitchell and Webb Situation,[2] That Mitchell and Webb Sound, a hefyd That Mitchell and Webb Look. Rhyddhawyd eu ffilm gyntaf, Magicians, yn 2007.[3]
Mae Mitchell yn banelydd rheolaidd ar y rhaglen banel gomedi Would I Lie to You?.[4] Mae wedi ymddangos fel panelydd gwadd ar raglenni megis QI, Mock the Week, Have I Got News for You,[5] 8 Out of 10 Cats a The Big Fat Quiz of the Year yn 2005, 2007, 2009, 2011, 2014 a 2015.[6] Mae wedi ymddangos mewn nifer o benodau o Question Time.[7] Ar y radio, mae'n cyflwyno'r gêm banel The Unbelievable Truth ar BBC Radio 4.[8]
Fel ysgrifennwr, mae Mitchell yn cyfrannu'n rheolaidd i erthyglau yn The Observer a The Guardian.
Remove ads
Cyfeiriadau
Wikiwand - on
Seamless Wikipedia browsing. On steroids.
Remove ads
