Victoria Coren Mitchell

actores From Wikipedia, the free encyclopedia

Victoria Coren Mitchell
Remove ads

Mae Victoria Elizabeth Coren Mitchell[2] (ganed 18 Awst 1972) yn ysgrifenwraig, cyflwynwraig, a chwaraewraig pocer proffesiynol. Mae Coren Mitchell yn ysgrifennu colofnau wythnosol i'r papurau newydd The Observer a The Guardian ac y mae wedi cyflwyno'r cwis teledu BBC Only Connect ers 2008.

Ffeithiau sydyn Llais, Ganwyd ...

Ganwyd Coren Mitchell yn Hammersmith, Llundain, yn ferch i'r newyddiadurwr Alan Coren a'i wraig Dr Anne Kasriel. Mae ganddi frawd o'r enw Giles Coren. Fe'i haddysgwyd yng Ngholeg Sant Ioan, Rhydychen.

Mae wedi bod yn briod i'r actor a'r comediwr David Mitchell ers mis Tachwedd 2012.[3] Ym mis Mai 2015, cyhoeddodd y cwpl enedigaeth eu merch.[4]

Remove ads

Cyfeiriadau

Loading related searches...

Wikiwand - on

Seamless Wikipedia browsing. On steroids.

Remove ads