Deffro'r Gwanwyn (sioe gerdd)
From Wikipedia, the free encyclopedia
Remove ads
Sioe gerdd roc yw Deffro'r Gwanwyn, sy'n drosiad Cymraeg o'r sioe gerdd wreiddiol Spring Awakening, gan Duncan Sheik a Steven Sater.

Remove ads
Plot
Mae'r sioe gerdd yn seiliedig ar ddrama Almaeneg Frühlings Erwachen (Deffro'r Gwanwyn) a ysgrifennwyd ym 1891 gan y dramodydd Frank Wedekind. Roedd yn ddrama ddadleuol iawn ar y pryd, a waharddwyd yn yr Almaen am gyfnod oherwydd ei phortread cignoeth o erthylu, cyfunrywioldeb, trais rhywiol, cam-drin plant a hunanladdiad. Mae'r ddrama'n ymwneud â deffroad rhywiol criw o arddegolion yn yr Almaen ddiwedd y bedwaredd ganrif ar bymtheg.
Remove ads
Y cynhyrchiadau Cymraeg
Ym mis Mawrth 2011, llwyfannwyd Deffro'r Gwanwyn gan Theatr Genedlaethol Cymru, cyfieithiad Cymraeg o'r sioe gan y dramodydd Dafydd James. Gwerthwyd pob tocyn a bu canmoliaeth fawr i'r cynhyrchiad[1]. Aeth y Theatr ar daith unwaith eto gyda'r sioe ym mis Tachwedd 2011, gyda rhai newidiadau i'r cast.[2][3]
Cast cynhyrchiad gwreiddiol Llundain a'r ddau gynhyrchiad Cymraeg.
Remove ads
Ffynonellau
Wikiwand - on
Seamless Wikipedia browsing. On steroids.
Remove ads