Diffyg ar y lleuad

From Wikipedia, the free encyclopedia

Diffyg ar y lleuad
Remove ads

Pan fo'r Lleuad yn union y tu ôl i'r Ddaear, mae'r Ddaear yn atal golau'r Haul rhag ei chyrraedd ac felly ceir cysgod drosti; gelwir hyn yn ddiffyg ar y lleuad (hefyd clip ar y lleuad ac eclips lleuad).[1][2] Ceir dau fath o ddiffyg: llawn a rhannol.

Ffeithiau sydyn Math, Yn cynnwys ...

Dim ond pan fo'r Haul, y Ddaear a'r Lleuad mewn llinell syth y ceir diffyg llawn a dim ond pan fo'r lleuad yn llawn y gall hyn ddigwydd. Ceir hefyd diffyg rhannol ar y lleuad.

Yn wahanol i ddiffyg ar yr Haul, a ellir ei weld yn unig o un rhan daearyddol o'r Ddaear, gellir gweld diffyg ar y lleuad o unryw ran o'r Ddaear sydd mewn nos. Gwahaniaeth arall yw fod diffyg ar y Lleuad yn para am oriau, eithr nid yw diffyg ar yr Haul yn para mwy nag ychydig funudau. Y rheswm dros hyn yw fod cysgod y Lleuad yn llawer iawn llai. Yn ogystal â hyn mae'n gwbwl ddiogel edrych ar ddiffyg ar y Lleuad heb unrhyw ffiltrau, rhag y pelydrau sy'n niweidiol i'r llygaid.

Ceir rhwng dau a phum diffyg rhannol ar y lleuad bob blwyddyn.

Remove ads

Lleoliadau

Thumb
Yn lleoliad 1 a 4 mae diffyg ar y Lloer yn bosibl. Yn lleoliad 2 a 3 mae diffyg ar yr Haul yn bosibl.

Chwedloniaeth

Mae sawl diwylliant, dros y canrifoedd, wedi gweld tebygrwydd rhwng y cysgod yn symud dros y Lleuad ag anifail yn ei bwyta. Yn yr Hen Aifft, hwch oedd yr anifail ac yn ôl traddodiad y Maya, jagiwar ydoedd. Yn nhraddodiad Tsieina, llyffant teircoes oedd yn bwyta'r lloer a'r diafol mewn diwylliannau eraill a ellid ei erlid drwy daflu cerrig a rhegfeydd ato.[3]

Ym Mecsico, credent bod diffyg yr Haul a'r Lleuad yn digwydd pan oedd yr Haul a’r Lleuad yn cweryla; ar y llaw arall, credai pobl Tahiti mai syrthio mewn cariad oedd yr Haul a’r Lleuad ar yr adegau yma.

Remove ads

Mewn llenyddiaeth

  • 689: Cyfeiria Llyfr Coch Hergest at ddiffyg ar y lleuad yn y flwyddyn 689, pan sonir am law lliw gwaed: A'r lleuat a ymchoelawd yn waedawl liw.
  • 810-810 OC: Deg mlyned ac wythcant oed oet Crist pan duawd y lleuat dyw Nadolyc. Ac y llosget Mynyw. Ac y bu varwolaeth yr anifeilet ar hyt ynys Brydein. (Brut y Tywysogion)[4] Mae'n cyfeirio at y diffyg a fu ar 14 Rhagfyr 810 (Calendr Iŵl), mae'n debyg.

Oriel

Gweler hefyd

Cyfeiriadau

Loading related searches...

Wikiwand - on

Seamless Wikipedia browsing. On steroids.

Remove ads