Dinas Dinlle

pentref yng Nghwynedd From Wikipedia, the free encyclopedia

Dinas Dinlle
Remove ads

Pentref bychan yng ngogledd Gwynedd yw Dinas Dinlle ("Cymorth – Sain" ynganiad ) (cyfeiriad grid SH4356). Saif ar lan Bae Caernarfon i'r de o Abermenai, tua 5 milltir i'r de-orllewin o dref Caernarfon. Mae ym mhlwyf Llandwrog. Mae traeth Morfa Dinlle a'i dywod braf yn boblogaidd gan bobl leol ac ymwelwyr. Siaredir y Gymraeg gan 77.9% o'r boblogaeth.

Ffeithiau sydyn Math, Daearyddiaeth ...

Cynrychiolir yr ardal hon yn Senedd Cymru gan Siân Gwenllian (Plaid Cymru)[1] ac yn Senedd y DU gan Liz Saville Roberts (Plaid Cymru).[2]

Thumb
Pentre Dinas Dinlle a'r traeth
Thumb
Bryngaer Dinas Dinlle o'r de
Remove ads

Bryngaer

Enwir y pentref ar ôl bryngaer Dinas Dinlle ar draeth Morfa Dinlle gerllaw. Mae'n gaer arfordirol o bridd a'i ochr orllewinol wedi'i hysu i ffwrdd gan y môr erbyn hyn. Codwyd dau glawdd anferth o gwmpas y bryn gan yr adeiladwyr. Tybir ei fod yn perthyn i ail gyfnod Oes yr Haearn (Oes yr Haearn B). Cafwyd gwrthrychau ynddi sy'n dyddio i'r 2ail ganrif a'r 3g, sy'n dangos fod pobl yn dal i fyw yno yng nghyfnod y Rhufeiniaid.

Mae'r gaer yn enwog yn llenyddiaeth Gymraeg a diwylliant Cymru oherwydd ei chysylltiad â Phedair Cainc y Mabinogi.

Yn y môr gyferbyn â Dinas Dinlle ceir Caer Arianrhod, cartref arallfydol Arianrhod yn y Mabinogi.

Remove ads

Morfa Dinlle

Mae Morfa Dinlle, i'r dwyrain o'r pentref, yn gorsdir arfordirol a ddynodwyd yn Safle o Ddiddordeb Gwyddonol Arbennig.

Cyfeiriadau

Loading related searches...

Wikiwand - on

Seamless Wikipedia browsing. On steroids.

Remove ads