Doha

prifddinas Qatar From Wikipedia, the free encyclopedia

Doha
Remove ads

Prifddinas Catar yw Doha (Arabeg: الدوحة‎). Mae ganddi boblogaeth o 400,051 yn ôl cyfrifiad 2005 ac fe'i lleolir ym mwrdeisdref Ad Dawhah ar lan Gwlff Persia. Doha yw dinas fwyaf Catar, gyda thros 80% o boblogaeth y wlad yn byw yno neu yn ei maesdrefi. Mae'n ganolfan economaidd i'r wlad hefyd. Mae Doha hefyd yn gartref i Ddinas Addysg (Education City), ardal arbennig ar gyfer ymchwil ac addysg. Roedd dinas Doha hefyd wedi cynnal Gêmau Asiaidd 2006, sef y Gêmau Asiaidd fwyaf i gael ei chynnal erioed.

Ffeithiau sydyn Math, Poblogaeth ...

Mae Doha wedi datblygu i fod yn ddinas fodern gyda safon byw uchel. Lleolir pencadlys y rhwydwaith teledu rhyngwladol Al Jazeera yn y ddinas.

Mae'r ddinas yn gartref i Brifysgol Catar a champws ysgol fusnes HEC Paris.

Remove ads

Adeiladau a chofadeiladau

  • Amgueddfa Genedlaethol Catar
  • Prifysgol Catar
  • Tŵr Aspire
  • Ynys Pearl-Catar
Eginyn erthygl sydd uchod am Asia. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato
Loading related searches...

Wikiwand - on

Seamless Wikipedia browsing. On steroids.

Remove ads