Douala

dinas, Cameroon From Wikipedia, the free encyclopedia

Douala
Remove ads

Douala yw'r ddinas fwyaf yn Camerŵn a phrifddinas Talaith Arfordirol Camerŵn. Mae'n gartref i borthladd mwyaf y wlad a'i phrif faes awyr rhyngwladol, Maes Awyr Douala, ac yn brifddinas masnach Camerŵn yn ogystal. Mewn canlyniad, mae'n delio â'r rhan fwyaf o allforion y wlad, e.e. olew, cocoa a choffi, yn ogystal â rhywfaint o fasnachu o Tsiad. Yno hefyd y cynhelir Marchnad Eko, y bwysicaf yn y wlad.

Ffeithiau sydyn Math, Poblogaeth ...

Saif y ddinas ar lannau Afon Wouri, gyda'r ddwy lan yn cael eu cysylltu gan Bont Bonaberi. Yn ôl cyfrifiad yn 1991 roedd tua 1.6 miliwn yn byw yn Douala ond erbyn hyn amcangyfrifir dros 2 filiwn o drigolion yn y ddinas. Mae'r hinsawdd yn boeth a chlos.

Thumb
Cerflun La nouvelle Liberté, Douala
Remove ads

Cludiant

Cysylltir Douala gan rheilffordd â Yaoundé, Ngaoundéré, Kumba a Nkongsamba.

Dolen allanol

Gefeilldref

Loading related searches...

Wikiwand - on

Seamless Wikipedia browsing. On steroids.

Remove ads