Trieste
dinas yn yr Eidal From Wikipedia, the free encyclopedia
Remove ads
Dinas a chymuned (comune) yng ngogledd-ddwyrain yr Eidal yw Trieste (Eidaleg: Trieste, Slofeneg a Croateg: Trst, Almaeneg: Triest), sy'n brifddinas talaith Trieste a rhanbarth Friuli-Venezia Giulia. Saif ym mhen draw Gwlff Trieste yn y Môr Adriatig, yn agos at y ffin rhwng yr Eidal a Slofenia, ac mae'n borthladd pwysig.
Yng Nghyfrifiad 2011 roedd gan y gymuned boblogaeth o 202,123.[1]
Roedd Trieste yn rhan o Awstria ac Ymerodraeth Awstria-Hwngari o 1382 hyd 1918. Wedi'r Rhyfel Byd Cyntaf, fe'i meddiannwyd gan yr Eidal.
Remove ads
Tiriogaeth Rydd Trieste
Am gyfnod wedi'r Ail Ryfel Byd bu ymgiprys am y ddinas rhwng luoedd Comiwnyddol Iwgoslafia dan reolaeth Tito a byddinoedd y Cynghreiriaid ac Eidalwyr. Crëwyd ffin Llinell Morgan byddai'n cynnal heddwch gydag elfen o gydweithio rhwng Iwgoslafia gomiwnyddol a Gwerinaieth newydd yr Eidal. Crëwyd Tiriogaeth Rydd Trieste a oedd yn annibynnol o'r ddau wlad.[2]
Enwogion
- Y Dywysoges Mathilde Bonaparte (1820–1904)
- Italo Svevo (1861–1928), nofelydd
- Biagio Marin (1891–1985), bardd
- Laura Solari (1913–1984), actores
Cyfeiriadau
Llyfriddiaeth
Dolenni allanol
Oriel
Wikiwand - on
Seamless Wikipedia browsing. On steroids.
Remove ads

