Dwyrain Swydd Gaer

awdurdod unedol yn Swydd Gaer From Wikipedia, the free encyclopedia

Dwyrain Swydd Gaer
Remove ads

Awdurdod unedol gyda statws bwrdeistref yn sir seremonïol Swydd Gaer, Gogledd-orllewin Lloegr, yw Dwyrain Swydd Gaer (Saesneg: Cheshire East).

Ffeithiau sydyn Math, Enwyd ar ôl ...

Mae gan yr ardal arwynebedd o 1,166 km², gyda 384,152 o boblogaeth yn ôl amcangyfrif cyfrifiad 2019.[1] Mae'n ffinio ar Orllewin Swydd Gaer a Chaer i'r gorllewin, Bwrdeistref Warrington i'r gogledd-orllewin, Manceinion Fwyaf i'r gogledd, Swydd Derby i'r dwyrain, Swydd Stafford i'r de-ddwyrain, a Swydd Amwythig i'r de.

Thumb
Dwyrain Swydd Gaer yn Swydd Gaer

Ffurfiwyd yr awdurdod ar 1 Ebrill 2009. Disodlodd yr hen ardaloedd an-fetropolitan Bwrdeistref Macclesfield, Bwrdeistref Congleton a Bwrdeistref Crewe a Nantwich a ddaeth i gyd o dan weinyddiaeth yr hen sir an-fetropolitan Swydd Gaer, a ddiddymwyd ar yr un dyddiad.

Rhennir Dwyrain Swydd Gaer yn 148 o blwyfi sifil, heb ardaloedd di-blwyf. Mae ei phencadlys yn nhref Sandbach. Mae aneddiadau eraill yn y fwrdeistref yn cynnwys Alsager, Bollington, Congleton, Crewe, Knutsford, Macclesfield, Middlewich, Nantwich, Poynton, a Wilmslow.

Remove ads

Cyfeiriadau

Loading related searches...

Wikiwand - on

Seamless Wikipedia browsing. On steroids.

Remove ads