Cerflun Edward Colston
cerflun cyhoeddus a fu ym Mryste, Lloegr From Wikipedia, the free encyclopedia
Remove ads
Cafodd cerflun o Edward Colston a arferai sefyll yng nghanol dinas Bryste ei dynnu i lawr gan brotestwyr ar 7 Mehefin 2020. Codwyd y cerflun cyntaf ym 1895.[1] Y cerflunydd oedd John Cassidy.
Dyn cyfoethog oedd Colston (1636–1721) a gafodd y rhan fwyaf o'i arian o'r fasnach gaethweision. Gwnaed cwynion am y cerflun cyntaf tua 1990 a gofynnwyd i Gyngor Dinas Bryste ei dynnu. Yn ystod protestiadau "Black Lives Matter" yn 2020, taflwyd y cerflun i'r harbwr. Tynnodd Cyngor Dinas Bryste y cerflun o'r dŵr ac maen nhw'n bwriadu ei roi mewn amgueddfa.
Dwedodd y Prif Gwnstabl Heddlu Bryste, Andy Marsh: "Byddai arestio pobl [ar y pryd] yn debygol o fod wedi arwain at anafiadau […] a gallai [hynny] fod wedi cael goblygiadau difrifol i ddinas Bryste a thu hwnt. Fedrwch chi ddychmygu golygfeydd o’r heddlu ym Mryste yn ymladd â phrotestwyr a oedd yn difrodi’r cerflun o ddyn yr ystyrir ei fod wedi gwneud tipyn o’i ffortiwn drwy’r fasnachu caethweision?"[2]
Remove ads
Cyfeiriadau
Wikiwand - on
Seamless Wikipedia browsing. On steroids.
Remove ads

